Uchafbwyntiau Sgorio: https://youtu.be/3M2f3aCjcaU
Cyn dechrau’r frwydr, roedd torf niferus (1,120) ond pryderus iawn wedi ymgasglu i wylio Aber yn chwarae Caernarfon yng ngêm ola’r tymor. Mewn gwirionedd roedd Aber angen buddugoliaeth, ond mi fyddai unrhyw ganlyniad gwell na chanlyniad Y Fflint, oedd yn chwarae ym Mhontypridd, yn ddigon i sicrhau nad Aber oedd yn disgyn o Uwch Gynghrair Cymru am y tro cyntaf ers ei sefydlu.
Dyma Aber yn dechrau trwy ymosod yn syth ond yna tawelwyd y dorf wrth i Gaernarfon wrthymosod a chroesiad perffaith Darren Thomas yn cael ei ergydio i’r rhwyd gan Rob Hughes wedi dwy funud yn unig! Dechrau gwaetha’ posib i Aber.
Ymatebodd Aber yn syth trwy ymosod yn gyson. Er cael sawl cyfle da, methu sgorio oedd hanes Aber. Iwan Lewis a Litchfield yn mynd yn agos. Aber oedd yn rheoli rhan fwyaf o’r meddiant ond roedd Caernarfon yn beryg wrth wrthymosod neu o giciau rhydd. Roedd rhaid i Turner yn y gôl i Aber wneud arbediad campus i atal Darren Thomas rhag rhoi Caernarfon ymhellach ar y blaen.
Parhau i ymosod gwnaeth Aber ac fe wobrwywyd ei dyfalbarhad wrth i beniad Arnison, wedi 39 munud, ddod a’r sgôr yn gyfartal. Ond prin fu’r dathlu.
Cafodd Caernarfon gig gornel yn yr amser a ychwanegwyd ar gyfer anafiadau ar ddiwedd yr hanner cyntaf. Dyma’r amddiffynnwr canol Bell yn codi uwch na neb wrth y postyn ‘gosaf a phenio’r bêl i’r rhwyd i roi ergyd arall i obeithion Aber. Aber 1 – 2 Caernarfon ar yr hanner.
Gyda Y Fflint yn gyfartal ar yr hanner, roedd Aber yn gwynebu colli ei lle yn Uwch Gynghrair Cymru.
Parhau i ymosod gwnaeth Aber ar ddechrau’r ail hanner ond roedd Woods yn gadarn yn y gôl i Gaernarfon, gan arbed cynnig mentrus Darlington. Maen nhw’n dweud tri chynnig i Gymro ond roedd angen 5 i Aber ddod yn gyfartal unwaith eto. Cic gornel i Aber yn cael ei benio yn erbyn y trawst gan Litchfield ac yna 3 cynnig arall yn cael eu harbed gan amddiffyn gwydn Caernarfon cyn i Cadwallader benio i’r rhwyd wedi 55 munud.
Roedd dathlu pellach gan selogion Aber wrth iddynt glywed fod Pontypridd bellach ar y blaen o dair i ddwy yn erbyn Y Fflint. Os byddai’r sgôr yn y ddwy gêm yn aros fel hyn, Y Fflint fyddai’n disgyn ac nid Aber. Ond er bod Aber yn rheoli’r meddiant, roedd Caernarfon yn dal yn beryg er prin oedd y cyfleon.
Ond roedd drama hwyr i ddod. Roedd gwell i ddod. Gyda’r 90 munud ar ben, dyma Litchfield yn rhedeg hanner hyd y cae cyn croesi i’r postyn pellach a dyma Flint yn plygu’n isel i benio gan sicrhau buddugoliaeth haeddiannol i Aber. Dyma ddechrau’r dawnsio gwyllt a’r llafarganu gan bawb o bob oed yn y dorf, ac eithrio llond dwrn o gefnogwyr y Cofis. Aber 3 – 2 Caernarfon oedd y sgôr ar y chwiban olaf.
Am gêm, am ddiweddglo i dymor siomedig. Un peth sy’n sicr os ydych yn cefnogi Aber, goliau hwyr a digon o ddrama. Yn eironig gôl gan Niall Flint yn sicrhau mae Y Fflint ac nid Aber sy’n disgyn o Uwch Gynghrair Cymru ar ddiwedd tymor 2022-23. Os am weld rhai o’r goliau ewch i gyfrif Trydar y rhaglen Sgorio.
Hwyl am dymor arall, rwy’n mynd i ymuno yn y dathlu!