Ysgol Wirfoddol Myfenydd

Creu paneli comig fel rhan o Brosiect Cynefin y Cardi ar gyfer Eisteddfod Tregaron

gan Jac Williams
Screenshot_20220706-132141
Screenshot_20220706-132141-1

Mae Eisteddfod Tregaron / Ceredigion 2020 neu erbyn hyn 2022 yn agosáu ac mae yna gyffro wedi bod yn yr ysgol yn barod wrth i ni fel holl ysgolion Ceredigion gydweithio gyda’n gilydd i greu comig go arbennig yn orlawn o hanesion a straeon pob ardal. Tasg pob ysgol oedd cynllunio ac arlunio ei dewis o stori cyn ei ddanfon at gwmni dylunio Cisp Multimedia. Buodd Bethan yn gweithio gyda ni o flaen llaw wrth gynllunio ac wedyn roedd hi a’r cwmni yn  mynd ati i ddylunio a chreu’r dudalen yn barod i’w osod yn y comig.

Roedd hi’n dipyn o dasg dewis testun ar gyfer ein panel comig gan fod yna gyfoeth o hanesion a straeon o gwmpas yr ardal ond yn dilyn sawl trafodaeth mi benderfynwyd creu ein panel ar hanes peintio ‘Wal Tryweryn’. Er nad yw hanes Tryweryn yn un lleol mae hanes y peintio dros y blynyddoedd , y dadfeilio , yr atgyweirio a phopeth sydd ynghlwm a’r wal eiconig yma yn symbolaidd iawn ran ardal yr ysgol ac mi roedd plant yr ysgol yn rhan o drafodaethau’r wal ar ôl iddi gael ei phrynu rhai blynyddoedd yn ôl.

Rydym ni wedi cael rhagflas o’n tudalen ac rydym yn hapus iawn o weld ein gwaith wedi ei ddylunio ac yn barod i’w roi at yr holl dudalennau eraill. Mi fydd y comig yn werthfawr iawn i ni er mwyn dysgu am holl hanesion Ceredigion a hefyd rydym wedi cael profiad arbennig wrth weithio ar y panel. Diolch am gael y cyfle gan obeithio y gwnewch chi fwynhau’r comig hefyd. Mwynhewch yr Eisteddfod yn Nhregaron.

Dosbarth Tryweryn (Blwyddyn 5 a 6)

Ysgol Myfenydd