Fel rhan o baratoadau’r ysgol ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron, fe ymunodd Ysgol Gymunedol Tal-y-bont gydag ysgolion eraill ar draws Ceredigion i greu panel ar gyfer comic i gyflwyno hanes lleol.
Yn dilyn llawer o waith ynghynt yn y flwyddyn pan luniwyd podlediad ar yr ardal leol gydag Ysgol Craig yr Wylfa, penderfynwyd dewis cyflwyno hanes Hen Wrach Cors Fochno.
Yn ôl yr hanes, bu’r wrach yn rheibio’r trigolion lleol am flynyddoedd ac un o’r sgil effeithiau gwaethaf oedd bod y trigolion yn datblygu rhyw fath o gryndod. Roedd y bobl leol yn dweud eu bod yn gorfod ‘ymladd byw’ yn erbyn castiau’r wrach. Ond hanes tipyn mwy caredig sy’n cael ei gyflwyno yn y panel. Roedd y wrach wedi disgyn i bydew dwfn, ond gyda help yr anifeiliaid a Gwydion a’i gi, fe’i hachubwyd. Roedd hi mor ddiolchgar fel y dangosodd i Gwydion sut i greu ei holl feddyginiaethau.
Erbyn hyn, mae gwyddonwyr yn credu taw rhyw fath o falaria oedd y cryndod a bod yr haint yn cael ei gario gan bryfetach oedd yn byw ar y gors. Hyn y gwn ni, nid yw’r wrach yn cerdded y gors bellach … ond tybed?
Cafodd y disgyblion hynaf gyfle gwych i gydweithio gyda chwmni Cisp Multimedia i gynllunio, dylunio a chreu’r panel. Diolch yn fawr am arweiniad swyddogion y Siarter iaith am y cyfle gwahanol iawn yma. Roedd pawb wedi mwynhau’r profiad yn fawr iawn ac edrychwn ymlaen at weld y comic cyflawn ar faes yr Eisteddfod ym mis Awst.