3 wythnos yn weddill i wneud cais am Gynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf

Peidiwch a bod yn oer gaeaf yma. Ymgeisiwch!

Penrhyn canol yn yr eira

Os ydych chi yn gymwys, mae’n bwysig eich bod yn ymgeisio cyn y 28ain o Chwefror 2022 (estyniad o’r dyddiad gwreiddiol 18fed o Chwefror).

Grant i rai sydd ar y grid?

Pwrpas y grant yw ysgafnu effaith ar gostau byw.  Gall aelwydydd cymwys hawlio un taliad o £200 (cynyddwyd o £100 yn wreiddiol) i roi cefnogaeth tuag at dalu eu biliau tanwydd ar y grid dros y gaeaf os ydynt yn byw yng Nghymru.  Os ydych eisoes wedi derbyn taliad o £100 fe fyddwch yn derbyn taliad arall o £100 yn awtomatig a does dim angen gwneud cais arall, nac i gysylltu â’r Cyngor.

Dyma’r linc i wneud cais https://www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/budd-daliadau/cynllun-cymorth-tanwydd-gaeaf/

Mae’r cynllun ar agor i aelwydydd lle mae un aelod yn derbyn budd-daliadau lles oedran gweithio sy’n dibynnu ar brawf modd (ar unrhyw adeg rhwng 1 Rhagfyr 2021 a 31 Ionawr 2022):

  • Cymhorthdal Incwm, neu
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm, neu
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm, neu
  • Gredyd Cynhwysol, neu
  • Gredyd Treth Gwaith.

Bydd y taliad ar gael i bob aelwyd gymwys, p’un ai ydyn nhw’n talu am eu tanwydd ar fesurydd rhagdalu, drwy ddebyd uniongyrchol neu drwy dalu bil bob chwarter.

Beth os ydw i oddi ar y grid?

Os ydych chi’n wynebu caledi ariannol difrifol neu angen cymorth ariannol gyda chostau tanwydd oddi ar y grid fel olew, Petroliwm Hylifedig (LPG) neu glo, dylech wneud cais am y Gronfa Cymorth Dewisol (DAF)neu drwy radffôn ar 0800 859 5924

Mae’r grant yma i helpu â chostau hanfodol, megis bwyd, nwy, trydan, dillad neu deithio mewn achos o argyfwng os ydych:

  • yn wynebu caledi ariannol difrifol
  • wedi colli eich swydd
  • wedi gwneud cais am fudd-daliadau ac yn aros am eich taliad cyntaf

Er mwyn cael grant, rhaid eich bod:

  • yn wynebu caledi ariannol difrifol, er enghraifft eich bod wedi colli eich swydd, wedi gwneud cais am fudd-daliadau ac yn aros am eich taliad cyntaf, neu heb unrhyw arian i brynu bwyd, nwy a thrydan
  • mewn sefyllfa o argyfwng ac angen cefnogaeth ariannol ar unwaith
  • yn byw yng Nghymru
  • dros 16 oed
  • heb unrhyw arian arall, er enghraifft cynilion, ac wedi ystyried pob math o fenthyciadau cyfreithlon a chyfrifol arall fel undebau credyd

Cynllun Cartrefi Clyd

Mae cynllun Nyth Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru yn cynnig amrywiaeth o gyngor diduedd yn rhad ac am ddim ac, os ydych yn gymwys, becyn o welliannau arbed ynni yn rhad ac am ddim i’ch cartref, fel boeler newydd, gwres canolog neu inswleiddiad. Gall hyn leihau eich biliau ynni a bod o fudd i’ch iechyd a’ch llesiant. Am ragor o wybodaeth, ffoniwch radffôn 0808 808 2244 neu ewch i nyth.llyw.cymru.

Advicelink Cymru

I gael cyngor ar ddyled ac arian ynghyd â gwybodaeth bellach am unrhyw gymorth ariannol arall y gall fod hawl gennych i’w gael, beth am gysylltu ag Advicelink Cymru? Ffoniwch Radffôn 0800 702 2020 (9am i 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener), neu, i gael gwybodaeth a/neu siarad ag un o’r cynghorwyr ar-lein, cliciwch yma