Yr union nifer i Gyngor Cymuned Ceulanmaesmawr

Pwy sydd yn cynrychioli pentrefi Talybont a Bont-goch ar y Cyngor Cymuned?

Tal-y-bontEddie Webster (CC-BY-SA2.0)

Tal-y-bont, Ceredigion (llun: Eddie Webster (CC-BY-SA2.0) Wikimedia)

I’r rhai ohonoch sydd heb glywed am Gyngor Cymuned Ceulanmaesmawr, dyma’r ardal pentrefi Tal-y-bont a Bont-goch, ond nid pen uchaf y sir lle gweinyddir gan Gyngor Cymuned Llancynfelin (pentrefi Tre’r Ddol a Thaliesin) a Chyngor Cymuned Ysgubor y Coed (pentrefi Ffwrnais, Eglwys-fach a Glandyfi).

Mae’r ward yn cael ei enw gan y ddwy afon – Ceulan a Maesmawr – ill dwy yn bwydo afon Eleri.

11 cynghorydd cymuned sydd ei angen, a chafwyd 11 enwebiad felly cafodd pawb eu derbyn yn ddiwrthwynebiad.

Dyma’r Cynghorwyr Cymuned sydd yn parhau: –

  • Cyng Ellen ap Gwynn (Plaid Cymru)
  • Cyng Rhian Evans (Plaid Cymru)
  • Cyng Bleddyn Huws (Plaid Cymru)
  • Cyng Enoc Wyn Jenkins (Plaid Cymru)
  • Cyng Nest Jenkins
  • Cyng Nia Richards

Yn ymuno a hwy mae: –

  • Eryl Bray
  • Catrin M S Davies (sydd hefyd yn ymgeisydd Plaid Cymru am y ward Cyngor Sir)
  • Elgan James Evans
  • Sion Pennant Jones (Plaid Cymru)
  • Mererid Watson

Wrth gwrs, mae’r Cyngor yn ffarwelio a Megan Mai ar ôl 35 mlynedd ar y Cyngor. Diolch iddi am oes o waith.

Ers yr etholiad diwethaf, mae’r cynghorwyr isod wedi gadael y Cyngor Cymuned hefyd: –

  • Emyr Davies
  • David Morris Jones
  • Sue Jones-Hughes
Ellen ap Gwynn

Diolch enfawr i’r pedwar am eu tymor, a hefyd i’r clerc, Rab Jones.

Cofiwch fod dal etholiad yn y ward ar ddydd Iau’r 5ed o Fai lle ceir dewis rhwng: –

  • Catrin M S Davies (Plaid Cymru)
  • Dilwyn Lewis (Annibynnol)

Mae tair ward pleidleisio ar agor rhwng 7 y bore a 10 yr hwyr

  • Neuadd Talybont
  • Neuadd yr Eglwys Llanfach
  • Yr Ystafell Haearn