I’r rhai ohonoch sydd heb glywed am Gyngor Cymuned Ceulanmaesmawr, dyma’r ardal pentrefi Tal-y-bont a Bont-goch, ond nid pen uchaf y sir lle gweinyddir gan Gyngor Cymuned Llancynfelin (pentrefi Tre’r Ddol a Thaliesin) a Chyngor Cymuned Ysgubor y Coed (pentrefi Ffwrnais, Eglwys-fach a Glandyfi).
Mae’r ward yn cael ei enw gan y ddwy afon – Ceulan a Maesmawr – ill dwy yn bwydo afon Eleri.
11 cynghorydd cymuned sydd ei angen, a chafwyd 11 enwebiad felly cafodd pawb eu derbyn yn ddiwrthwynebiad.
Dyma’r Cynghorwyr Cymuned sydd yn parhau: –
- Cyng Ellen ap Gwynn (Plaid Cymru)
- Cyng Rhian Evans (Plaid Cymru)
- Cyng Bleddyn Huws (Plaid Cymru)
- Cyng Enoc Wyn Jenkins (Plaid Cymru)
- Cyng Nest Jenkins
- Cyng Nia Richards
Yn ymuno a hwy mae: –
- Eryl Bray
- Catrin M S Davies (sydd hefyd yn ymgeisydd Plaid Cymru am y ward Cyngor Sir)
- Elgan James Evans
- Sion Pennant Jones (Plaid Cymru)
- Mererid Watson
Wrth gwrs, mae’r Cyngor yn ffarwelio a Megan Mai ar ôl 35 mlynedd ar y Cyngor. Diolch iddi am oes o waith.
Ers yr etholiad diwethaf, mae’r cynghorwyr isod wedi gadael y Cyngor Cymuned hefyd: –
- Emyr Davies
- David Morris Jones
- Sue Jones-Hughes
Diolch enfawr i’r pedwar am eu tymor, a hefyd i’r clerc, Rab Jones.
Cofiwch fod dal etholiad yn y ward ar ddydd Iau’r 5ed o Fai lle ceir dewis rhwng: –
- Catrin M S Davies (Plaid Cymru)
- Dilwyn Lewis (Annibynnol)
Mae tair ward pleidleisio ar agor rhwng 7 y bore a 10 yr hwyr
- Neuadd Talybont
- Neuadd yr Eglwys Llanfach
- Yr Ystafell Haearn