Siomedig i golli mas ar y rali oherwydd fy mod gorfod hunanynysu. Byddwn i wedi bod yna heb os fel arall. Da iawn bawb.
Aberystwyth oedd cartref rali Cymdeithas yr Iaith a hynny i gofio 60 mlynedd ers darlith Saunders Lewis am dynged yr iaith. Diflannu wnaeth Storm Eunice a chafwyd haul a dim gwynt drwy gyfnod y rali.
Wedi ymgynnull yn Nhrefechan, cafwyd oediad ar y bont i gofio rali eiconig Trefechan
Ac aeth y rali yn ei blaen lan Heol y Bont at y Cloc, cyn troi tuag at Sgwâr Owain Glyndŵr. Ar y sgwâr, cafwyd araith fer gan Heledd Gwyndaf.
Nid yw Cymru ar werth #nidywcymruarwerth #cymdeithasyriaith pic.twitter.com/zPqveIbB7G
— Heulwen Jones (@heuliwen) February 19, 2022
Aeth y rali wedyn yn ei blaen ar hyd Boulevard St Brieuc tuag at Swyddfeydd Llywodraeth Cymru.
Cafwyd adloniant gan Tecwyn Ifan, araith gan Bryn Fôn, Mared Edwards (Llywydd UMCA) a Gwenno Morris o ardal Llandysul. Cadeiriwyd y cyfan gan Mabli Siriol (Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith)
Un nodwedd o’r rali oedd fod pawb wedi cario placardiau yn nodi pa gymuned roeddent yn cynrychioli.
Braf gweld cymaint o bobl yn dychwelyd i Aberystwyth.