Ar noson niwlog ar Goedlan y Parc, roedd hi’n hanfodol i Aber gipio’r triphwynt wedi i Hwlffordd ennill pwyntiau gwerthfawr yn erbyn y Drenewydd a’r Bala yn eu tair gêm ddiwethaf. Er gwaethaf y pwysau, llwyddodd Aber i ennill yn gyfforddus gan sgorio pum gôl heb ildio dim gan ddringo uwchben Hwlffordd yn y tabl ac allan o’r ddau waelod.
Dechreuodd Aber i reoli’r gêm yn syth o’r chwiban cyntaf. Cafodd Steff Davies gyfle euraidd wedi dim ond chwe munud wrth iddo dorri drwy amddiffyn yr ymwelwyr ond arbedwyd ei ergyd yn dda gan Michael Jones yn y gôl i’r Derwyddon. Ond roedd ymosod Aber yn ddi-baid ym munudau cynnar y gêm ac wedi 14 munud sgoriodd Harry Franklin. Collwyd y bêl gan ganol cae’r Derwyddon gyda Matty Jones yn cymryd mantais o’r bêl rydd a’i basio i Franklin. Ergydiodd Franklin o ymyl y cwrt cosbi gydag ochr allan ei droed dde gan grymanu’r bêl yn grefftus dros ben y golwr.
Wedi’r gôl gynnar hollbwysig, parhaodd Aber i reoli gyda’r cyfleoedd yn llifo. Wedi 17 munud peniodd Steff Davies yn llydan wedi croesiad gwych o gic rydd gan Jack Rimmer ac wedi 32 munud crymanodd Jamie Veale y bêl heibio’r postyn agosaf o gic rydd ar ochr chwith y cwrt.
Dyblwyd mantais Aber gyda dwy funud yn weddill o’r hanner cyntaf. Gwnaeth Jon Owen yn dda i gadw’r bêl ar ymyl y cwrt, er gwaetha’r ffaith fod tri amddiffynnwr yn ei gau i lawr. Pasiodd i Matty Jones ar yr asgell chwith. Croesodd Jones tuag at y postyn agosaf ac yno roedd Veale i lywio’r bêl i gefn y rhwyd. Dim ond munud yn ddiweddarach, sgoriodd Franklin ei ail gan ergydio o gornel dde’r cwrt wedi cic hir gan Zabret. 3-0 ac Aber yn gyfforddus ar yr hanner.
Parhau gwnaeth gafael Aber ar y gêm yn yr ail hanner gyda chic rydd Jamie Veale yn taranu oddi ar y trawsbren wedi 50 munud ac ymdrech acrobataidd Steff Davies yn cael ei arbed wedi 63 munud. Fe aeth pethau o ddrwg i waeth i’r Derwyddon dwy funud yn ddiweddarach gyda Kieran Smith yn gadael y cae ar ôl derbyn ei ail gerdyn melyn yn dilyn baglu’r eilydd Sam Phillips.
Gorffennodd Aber y gêm yn wych gyda dwy gôl i Sam Phillips o fewn pymtheg munud. Daeth y cyntaf ar ôl 71 munud wedi iddo garlamu heibio’r amddiffynnwr a rholio’r bêl yn isel i gornel y rhwyd. Gyda thair munud yn weddill, sgoriodd Phillips ei ail gyda Matty Jones yn darparu croesiad ardderchog i’r postyn pellaf.
Triphwynt enfawr felly i Aber wrth iddynt ddringo allan o’r ddau waelod, ond bydd pawb yn troi’u sylw tuag at nos Fawrth nesaf. Bydd Aber yn gwynebu Hwlffordd mewn gêm dyngedfennol yn y frwydr i aros yn y JD Cymru Premier. Mi fydd y clwb hefyd yn dathlu eu 1000fed gêm yn yr uwch gynghrair – felly noson i’w gofio dwi’n siŵr – dewch draw!