Bow Street – y lle am baned a chlonc

Pobl y pentre’n estyn croeso bob bore Gwener

gan Anwen Pierce
Paned a chlonc - Neuadd Rhydypennau

paned a chlonc – Neuadd Rhydypennau

Ar ddechrau mis Hydref, cynhaliwyd bore coffi cynta’r gaeaf yn Neuadd Rhydypennau, Bow Street. Mae’r neuadd wedi uno â chapeli ac eglwysi’r ardal i gynnal y boreau hyn, a phobl leol sydd wrthi yn y gegin, a hynny o’u gwirfodd.

Mae croeso i bawb o bob oed alw heibio rhwng 10 a 12 bob bore Gwener yn ystod y gaeaf, a’r gobaith yw y bydd pobl yn manteisio ar y cyfle hwn i daro i’r neuadd am baned a chwmnïaeth mewn man cynnes, gyda’r cyfan am ddim.

Bydd dilynwyr BroAber360 wedi sylwi bod y neuadd yn lle prysur iawn bellach, gyda phob math o weithgareddau’n cael eu cynnal yno – dosbarthiadau erobics, cadw’n heini, dawnsio tap, cyrsiau TG, ioga, sesiynau badminton, tennis bwrdd … a llawer llawer mwy! Cofiwch edrych ar dudalen Facebook y neuadd am wybodaeth, a chofiwch daro heibio rhyw fore Gwener am baned a chlonc.