“Snaps” o’r ’Steddfod

Trigolion ardal BroAber yn adlonni, addysgu ac yn porthi’r dorf ar ddydd Mawrth Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Ceredigion 2022.

Huw Llywelyn Evans
gan Huw Llywelyn Evans
Yagol Gymraeg A

Plant yr Ysgol Gymraeg yn morio canu ar Llwyfan-ni, Cyngor Ceredigion ben bore.

Empanadas

Pwt i’w fwyta o stondin Empanadas wrth ddarllen Lol amser cinio!

Côr Meibion Aberystwyth

Côr Meibion Aberystwyth ar Lwyfan y Maes.

Rheinallt Llwyd

Rheinallt Llwyd yn cloriannu cyfraniad Alun R Edwards i’r byd llyfrgellyddol a cyhoeddi.

Dylan Ebenezer a Sam Ebenezer

Dylan Ebenezer a Sam Ebenezer yn rhannu jôc wrth hel achau!

Marian Delyth

Marian Delyth yn cyflwyno lluniau o’i harchif sy’n cwmpasu hanner canrif o fywyd Cymru.

Penweddig Dathlu 50

Prifathrawon hen a’r newydd a’r Prif Swyddogion yn edrych ymlaen at ddathliadau Ysgol Penweddig yn 50 yn 2023.

Arad Goch

Arad Goch ar Y Maes.

Wrth i’r ffotograffydd Marian Delyth gyflwyno rhai o’i lluniau yn ymwneud â’r ‘Steddfod mewn darlith yn Y Lle Celf, dywedodd fod yr artist Osi Rhys Osmond yn disgrifio ei ffotograffau fel “snaps”! Wel dyma “snaps” go iawn yn croniclo cyfran fechan iawn o’r digwyddiadau ar faes y ‘Steddfod heddiw.