Siop Llanilar wedi codi dros £900

Mae Siop y Pentref wedi codi dros £900 at Apêl Cemo Bronglais

gan Andrew Hawke

Ar ddiwedd Tachwedd 2021, lansiodd Bwrdd Iechyd Hywel Dda ymgyrch i codi hanner miliwn o bunnoedd. Ar y pryd dywedodd llefarydd ar ran y Bwrdd:

Mae apêl codi arian yn cael ei lansio heddiw i godi £500,000, sef y swm sy’n weddill o’r cyfanswm sydd ei angen i allu darparu Uned Gemotherapi bwrpasol i gleifion allanol yn Ysbyty Cyffredinol Bronglais.

Gyda chymorth a chefnogaeth pobl o bob cwr o Geredigion a thu hwnt, gellir gwireddu’r weledigaeth o gael uned gemotherapi newydd sbon ar gyfer pobl leol.

Bydd un o bob dau berson yng Nghymru yn cael diagnosis o ganser ar ryw adeg yn eu bywyd; yn anffodus, mae’n glefyd sy’n effeithio ar bron bob teulu. Mae dros 60 o bobl yr wythnos yn cael triniaeth gwrth-ganser hollbwysig yn Ysbyty Bronglais, sef cyfanswm o ryw 300 o bobl y flwyddyn o Geredigion, de Gwynedd a gogledd Powys.

Bydd datblygu uned newydd yn costio oddeutu £2.2 filiwn, ac mae cyfanswm o bron £1.7 miliwn wedi’i gadarnhau eisoes ar gyfer y cynllun, diolch yn bennaf i haelioni ein cymunedau lleol.

Trwy Apêl Cemo Bronglais, mae un ymdrech olaf yn cael ei gwneud yn awr i godi’r £500,000 sy’n weddill.

Mae Keith a Helen Mouton o Siop y Pentref yn cefnogi’r achos drwy’r siop fach yn Llanilar, ac maen nhw eisoes wedi codi dros £900. Yn ddiweddar, maen nhw wedi dechrau gwerthu tocynnau raffl yn y siop mewn ymdrech i godi’r cyfanswm i fil o bunnoedd cyn y Nadolig.

Tynnir y raffl ar 18 Rhagfyr.

Cofiwch brynu tocyn pan fyddwch chi yn y siop y tro nesaf. Pob hwyl i’r ymgyrch!