Sioe Talybont

Cipolwg ar baratoadau cystadleuwyr Sioe Talybont

gan Sara Jenkins

Mae ein plant wedi bod yn brysur dros yr wythnosau diwethaf yn paratoi ar gyfer Sioe Talybont. Byddant yn cystadlu yn y gystadleuaeth Tywysydd Ifanc. Byddwn hefyd yn mynd â’n gwartheg godro a gwartheg Duon Cymreig i’r Sioe.

Cynhelir y Sioe ar gaeau’r Llew Du yn Nhalybont yfory, 27ain o Awst.

Yn ogystal â’r cystadleuthau’r da byw, a’r babell arddwriaethol, bydd yna stondinau crefftau ynghyd â stondinau masnach amrywiol. Rhywbeth at ddant pawb.

A chofiwch, gyda’r nos, bydd CFfI Talybont yn cynnal cystadleuaeth Cneifo Cyflym ar fferm Tanrallt, Talybont – mae’n argoeli i fod yn noson a hanner!