
Lewis Morgan, pencampwr yr ‘interbreed’

Pencampwr a Chil Bencampwr y Defaid Dorsets

Rhys Tynbeili a’i fab Elis yn joio yn y sioe

Pencampwr y defaid Mynydd Cymreig – Tomos Hulme, Penciog

Arddangos y defaid Dorset yn y Cylch Defaid

Eiry Bonner yn y cyfrwy

Gwartheg Holstein – o’r chwith i’r dde: Cefnllwynpiod, Tynbeili a’r pencampwr Cerrigcaranau

Gwenllian a’i thad John Evans gyda pencampwr a chil bencampwr y Jacobs.

Gwenllian Evans, pencampwr tywyswyr ifanc

Desach Turbo express, Cobyn Cymreig 4 oed. Ceffyl di brofiad yn cael profiad mewn sioe leol.

Myfi Môn (3 oed) gyda’i chaseg Shetland, Ladi yn ennill y lead rein mynydd a gweundir ac yn gil pencampwr ar y cae yn adran y plant. Yn y llun mae Caryl Evans (noddwr y sash) Betty Williams (beirniad) a Nerys Daniel.

Hewid Heliwr gyda’i fam Brynley Hannah yn ennill yr ebol gorau yn adran y Cobiau Cymraeg

Hewid Hooch, yn y cylch arddangos gyda Nerys Daniel yn y cyfrwy.

Pencampwr y Suffolk – Gethin Davies

Roedd angen hufen ia dydd Sadwrn!

Tu hwnt i’r cwpanau, roedd hi’n brysur yn y prif gylch.

Y cyffro yng nghylch y gwartheg

Diolch am alw mewn i stondin Y DDOLEN



Diwrnod da ar gaeau Castle Hill dydd Sadwrn diwethaf wrth i Sioe Llanilar gael ei chynnal am y tro cyntaf ers 2019. Roedd yr haul yn danbaid ond daeth llawer o bobl am dro er mwyn cefnogi’r sioe leol.
Nid oedd pabell ar y cae eleni ond yn hytrach defnyddiwyd neuadd yr ysgol i arddangos cynnyrch.
Diolch yn fawr i Iestyn Leyshon am roi caniatâd i ni rannu fideo gyda chi sy’n rhoi blas i chi o’r hyn welodd e yn ystod ei ddiwrnod yn y sioe.
Dywedodd Ann Lloyd, Cadeirydd y sioe…
Roedd hi mor braf cael cyd gwrdd unwaith yn rhagor ar gaeau Castle Hill i gynnal Sioe Llanilar ar ôl tair blynedd o seibiant. Cafwyd diwrnod llwyddiannus iawn, a hyfryd oedd gweld gymaint o ffrindiau, cymdogion, ymwelwyr a chystadleuwyr wedi dod ynghyd i gefnogi’r sioe, roedd y tywydd poeth yn creu sefyllfa digon heriol, ond wrth roi mesurau ychwanegol mewn lle a newid ambell beth, roedd modd sicrhau diogelwch a mwynhad pawb! Diolch i bawb fuodd yn cynorthwyo, mae fy niolch yn fawr i chi gyd. Welwn ni chi gyd flwyddyn nesa!
Llongyfarchiadau i’r holl enillwyr a diolch enfawr i’r holl gystadleuwyr ddaeth i gefnogi. Dydy lluniau pawb ddim gyda ni ond dyma galeri bach i chi sy’n rhoi blas o’r cystadlu.
Joiodd criw Y DDOLEN ar y stondin ar y maes a diolch i bawb alwodd heibio am sgwrs!