Diwrnod da ar gaeau Castle Hill dydd Sadwrn diwethaf wrth i Sioe Llanilar gael ei chynnal am y tro cyntaf ers 2019. Roedd yr haul yn danbaid ond daeth llawer o bobl am dro er mwyn cefnogi’r sioe leol.
Nid oedd pabell ar y cae eleni ond yn hytrach defnyddiwyd neuadd yr ysgol i arddangos cynnyrch.
Diolch yn fawr i Iestyn Leyshon am roi caniatâd i ni rannu fideo gyda chi sy’n rhoi blas i chi o’r hyn welodd e yn ystod ei ddiwrnod yn y sioe.
Dywedodd Ann Lloyd, Cadeirydd y sioe…
Roedd hi mor braf cael cyd gwrdd unwaith yn rhagor ar gaeau Castle Hill i gynnal Sioe Llanilar ar ôl tair blynedd o seibiant. Cafwyd diwrnod llwyddiannus iawn, a hyfryd oedd gweld gymaint o ffrindiau, cymdogion, ymwelwyr a chystadleuwyr wedi dod ynghyd i gefnogi’r sioe, roedd y tywydd poeth yn creu sefyllfa digon heriol, ond wrth roi mesurau ychwanegol mewn lle a newid ambell beth, roedd modd sicrhau diogelwch a mwynhad pawb! Diolch i bawb fuodd yn cynorthwyo, mae fy niolch yn fawr i chi gyd. Welwn ni chi gyd flwyddyn nesa!
Llongyfarchiadau i’r holl enillwyr a diolch enfawr i’r holl gystadleuwyr ddaeth i gefnogi. Dydy lluniau pawb ddim gyda ni ond dyma galeri bach i chi sy’n rhoi blas o’r cystadlu.
Joiodd criw Y DDOLEN ar y stondin ar y maes a diolch i bawb alwodd heibio am sgwrs!