Waw! Da iawn, Dallas Wiseman a’i gyfeillion, a feiciodd 970 milltir o Land’s End i John O’Groats a chodi £1,100 ar gyfer Apêl Cemo Bronglais.
Llwyddodd Dallas, rheolwr ôl-werthu garej o Lambed, i wneud y sialens mewn dim ond 10 diwrnod gyda dau o’i ffrindiau, Barry Davies a John McDonogh.
Meddai: “Roeddem yn cynllunio hyn cyn y pandemig ac o’r diwedd bu’n rhaid i ni ei wneud ym mis Mai. Fel beiciwr brwd, roedd yn bendant ar fy rhestr bwced ac, er ei bod yn anodd gwneud 100 milltir y dydd, roedd yn wych gorffen ar amser.”
Roedd yn fwy o gamp fyth i Dallas oherwydd ei fod wedi torri asgwrn dwbl yn ei goes ar ôl damwain beicio mynydd union flwyddyn yn ôl!
“Roeddwn i eisiau rhoi rhywbeth yn ôl i Ysbyty Bronglais ac rydyn ni i gyd yn adnabod rhywun sydd wedi cael triniaeth am ganser,” ychwanegodd Dallas, sy’n 50 oed. “Gallai canser ddigwydd i unrhyw un ar unrhyw adeg ac mae gallu cael gofal yn agos i gartref mor bwysig.”
Nod Apêl Cemo Bronglais yw codi’r £500,000 sydd ei angen ar gyfer y gwaith adeiladu i ddechrau ar uned ddydd cemotherapi bwrpasol newydd yn Ysbyty Bronglais, er mwyn gwella profiad y claf yn fawr.
I gael rhagor o wybodaeth am yr Apêl ewch i: www.elusennauiechydhyweldda.org.uk