Robat ac Enid Gruffudd – Tywyswyr 2022

Y Parêd yn cydnabod eu cyfraniad fel sylfaenwyr cwmni argraffu a chyhoeddi yn Nhal-y-Bont

Siôn Jobbins
gan Siôn Jobbins

Y pâr priod, Enid a Robat Gruffudd, sefydlwyr Gwasg Y Lolfa, yw Tywyswyr Parêd Gŵyl Dewi Aberystwyth a gynhelir ar ddydd Sadwrn 5 Mawrth 2022.

Rhoddir braint ‘Tywysydd’ ym mhob gorymdaith Gŵyl Dewi ers ei sefydlu yn 2013 a bydd y Tywysydd yn arwain y Parêd drwy dref Aberystwyth. Mae’n arwydd o ddiolch a gwerthfawrogiad cymuned Aberystwyth i berson neu bersonau lleol sydd wedi gwneud cyfraniad pwysig i iaith a diwylliant Cymru.

Trwy gyd-ddigwyddiad, ganed Robat ac Enid yn Llwyn-y-pia, yn y Rhondda, o fewn mis i’w gilydd, ond magwyd Enid yn Ael Dinas (Dinas Terr.), Trefechan, Aberystwyth, tra i Robat gael ei fagu yn Abertawe.

Sefydlodd Robat y cylchgrawn dychanol ac eiconig, Lol yn 1965 ym Mangor gyda’i ffrind, y diweddar awdur, Penri Jones. Roedd y cylchgrawn gynnwrf mawr ond roedd yn rhan o’r mudiad gwleidyddol a diwylliannol a lusgodd y Gymraeg i fod yn iaith gyfoes ac ifanc.

Aeth ymlaen i sefydlu Gwasg Y Lolfa yn 1967 yn Nhal-y-bont ac mae’r cwmni bellach cael ei rhedeg gan eu meibion Garmon a Lefi; mae Einion eu mab hynaf yn gweithio fel arweinydd prosiect yn y Llyfrgell Genedlaethol.

Mae’r Lolfa nid yn unig yn cyhoeddi llyfrau poblogaidd Cymraeg a Saesneg, ond mae Robat ei hun hefyd yn awdur wedi cyhoeddi nifer o nofelau, cyfrol o farddoniaeth a Lolian, dyddiadur hanner canrif. Mae diwylliant a gwleidyddiaeth Cymru a’r Gymraeg wastad wedi bod yn bwysig i Robat, ac roedd ef – ynghyd ag Enid – ym mhrotest enwog Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar Bont Trefechan yn 1963 pan ddechreuwyd y mudiad torfol dros hawliau i’r iaith Gymraeg.

Bu Enid yn athrawes yn Nhal-y-bont cyn magu teulu yno a gweithio i’r Lolfa am gyfnodau wrth gymryd rhan mewn protestiadau dros yr iaith Gymraeg ac yn erbyn arfau niwclear.

Meddai Siôn Jobbins, Cadeirydd y Parêd:

“Rydym yn hynod falch i Robat ac Enid Gruffudd wedi derbyn ein cais i fod yn Dywyswyr eleni. Mae cyfraniad y ddau trwy sefydlu a rhedeg gwasg Y Lolfa yn anferthol. Daeth y wasg ag ysbryd newydd i ddiwylliant Cymraeg ond mae hi hefyd wedi gwneud cyfraniad anferth wrth gyhoeddi cannoedd o lyfrau Saesneg yn esbonio Cymru i gynulleidfa ryngwladol. Roedd penderfyniad Robat ac Enid i sefydlu’r wasg yn Nhal-y-bont fel rhan o athroniaeth i greu gwaith yn ardaloedd gwledig Cymraeg eu hiaith yn holl bwysig. Tyfodd y cwmni yn gyflogwr amlwg yng ngogledd Ceredigion gan ddod â swyddi proffesiynol, da i’r ardal,”

Meddai Robat:

“Bydd arwain y Parêd yn fraint ac yn bleser i ni. Bydd yn anrhydedd cael dilyn yn llinach y tywyswyr gwych a fu o’n blaenau. Ond pwysicach na’n cyfraniad ni i fywyd Cymreig yr ardal, yw cyfraniad allweddol yr ardal a’i Chymreictod i’n llwyddiant ni fel gwasg. Does dim modd dychmygu’r Lolfa yn ffynnu yn unrhyw le ond yn Nhal-y-bont.”

Llwybr yr Orymdaith:

Cynhelir Parêd 2020 ar ddydd Sadwrn 5 Mawrth 2022. Bydd yn dechrau o Gloc y Dre i waelod y Stryd Fawr, ac yna troi i’r chwith ar gornel Banc Barclays am Ffordd y Môr a syth am Lys-y-Brenin. Bydd top y rhannau o Stryd y Baddon a Ffordd y Môr sy’n ffinio â Llys y Brenin ar gau i gerbydau am gyfnod y Seremoni.

Noddwyr:

Mae’r trefnwyr yn hynod ddiolchgar am nawdd – Cyngor Tref Aberystwyth am eu nawdd hael a Chlwb Cinio Aberystwyth am eu nawdd a chymorth.