Fel rhan o baratoadau ysgolion Ceredigion ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron, gofynnwyd i ysgolion greu panel comig yn cyfleu hanesion lleol y sir.
I ddisgyblion Ysgol Llangwyryfon roedd y dasg o ddewis hanesyn yn un rhwydd a phenderfynwyd ar hanes Rhyfel y Sais Bach.
Dyma stori am wrthdaro rhwng trigolion lleol a Sais cyfoethog a feddiannodd darn o dir comin yn yr ardal leol – hanes sydd wedi profi’n boblogaidd gyda disgyblion yr ysgol dros y blynyddoedd ac sydd yn ennyn eu diddordeb a’u dychymyg.
Yn ystod mis Mai bu disgyblion hynaf yr ysgol yn brysur yn cydweithio â chwmni Cisp Multimedia yn cynllunio a dylunio yr hanes drwy dynnu lluniau ac ysgrifennu capsiynau, gan fwynhau y profiad yn fawr iawn.
Mae pawb yn edrych ymlaen at weld yr holl hanesion ar faes yr Eisteddfod ym mis Awst.