Rees Thomas a Chadair y Genedlaethol

Rees Thomas, saernïwr y Gadair, yn mwynhau profiad y cadeirio

gan Iestyn Hughes

Sylwadau Rees Thomas, saer cadair Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2022 am ei brofiad yn ei llunio.

“O’dd dydd Gwener yn ddiwedd saga, gyda’r gadair wedi bod ar y gweill yma ers Ebrill 2019. Wrth i’r Eisteddfod gael ei gohirio a’i gohirio eto, yn naturiol buodd dipyn o holi a siarad am y gadair, a galwodd nifer draw i’w gweld hi. Oherwydd yr oedi, roedd rhaid newid y cynllun gwreiddiol. Y bwriad oedd rhoi siâp 2020 i lawr y cefen, ond roedd angen newid y cwbwl. Doeddwn i ddim yn siŵr beth i’w wneud a bues i’n siarad efo Wynne Melville Jones, ac fe ddaethon ni lan ’da’r syniad o’r barcud. Fuon ni’n pendroni wedyn sut i osod neu argraffu cynllun barcud ar y cefen.

“Yn y diwedd, oherwydd y cyfnod clo, doedd dim modd mynd â’r pren i’w argraffu mewn lliw, a gydag amser yn mynd heibio a’r holl ansicrwydd, aethpwyd ati i ffurfio’r ddelwedd gan defnyddio staen – a llwyddwyd i’w wneud, gyda gofal mawr, heb bod y lliw yn rhedeg gyda’r graen.

“Roedd pob math o ofynion a rheolau gan yr Eisteddfod am yr hyn y gellid ei osod ar gadair o ran geiriau. Ond, oherwydd y drafferth gyda’r gohirio, ar y cefen fe roddais y gair ‘Ceredigion’ wedi’i ffurfio o ddarn o dderw’r gors – wedi’i arbed ym mawn Cors Fochno – oedd yn 4,000 o flynyddoedd oed o leiaf, a hynny yn dilyn siâp llythrennau Coelbren y Beirdd. Mae cerrig yr Orsedd yng Nghastell Aberystwyth wedi’u naddu gyda llythrennau’r Coelbren, ac roedd hynny’n ysbrydoliaeth. Ro’n i’n gallu defnyddio’r pren gan fod contrast bendigedig rhwng y ddau dderw – y golau a’r tywyll.

“Ar ddiwrnod y cadeirio roeddwn i wedi bod yn cael bwyd – roedd Cylchoedd Cinio Cymru wedi dod at ei gilydd – a rhoi anerchiad bach iddyn nhw am y gadair (Cylch Cinio Aberystwyth oedd yn noddi’r gadair). Yna hel y teulu at ei gilydd i fynd i’r pafiliwn – a chiwio am awr i gael mynd i mewn! Doedd gen i ddim syniad a oedd teilyngdod ai peidio. ‘Ww,’ meddai’r plant pan welon nhw fod dwy sedd yn y rhes flaen gyferbyn â’r grisiau i’r llwyfan yn wag, ‘Cerwch am y rheini, glou,’ medden nhw, ac felly y bu.

“Roedd gan Mary (y wraig) a finnau ‘grandstand view’ o’r seremoni. Un peth sylwais arno eleni yn wahanol i eisteddfodau eraill. Fel arfer, mae’r bobl fawr yn ishte yn y rhes flaen, ond sylwes i fod neb o’r bobol fawr yn y rhes flaen o gwbl, a’i bod hi wedi bod felly drwy’r wythnos. Rwy’n meddwl bod hyn yn beth da, a dyna braf cael nesa ata i ar un ochr dau o blant bach a’u teulu, a Mary ger fy mhwys i. Roedd yn brofiad, a gweud y gwir. Gweld y cwbl – pawb yn dod lawr y steps o’ch blaen chi.

“A wedyn ffendio mas bore wedyn fod yr enillydd yn gymydog i ffrind i ni. Ddaru ni ddim cyfarfod â’r bardd buddugol – Llŷr Gwyn Lewis – roedd hi’n hwyr arnon ni’n dod mas, a doedd dim arall i’w wneud, felly aethon ni’n dawel bach a bant am gartre. Rwy’n mor falch bod enillydd – fydde wedi bod yn siom fawr i cymaint o bobl pe na bai teilyngdod.

“Mae pawb wedi bod y canmol llun y gadair – y tro cyntaf i lun o gadair gael ei dynnu tu fas, dw i’n credu, a phobl wedi dwlu ar hynny. Cefais y llun wedi’i argraffu yn anrheg, gydag englynion gan yr Archdderwydd, Myrddin ap Dafydd, arno.”

I Rees Thomas
i ddiolch am gelf y Gadair
Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2022

Tyfwn, fel afon Teifi – o hanes
Bryniau man ein geni:
Mawn y waun sydd ynom ni.

Wedi’r hesg a brwydr y rhyd, – mi godwn
Yma gyda’r barcud;
Lledwn, aberwn i’r byd.

Daw derw o’n daerau, – o wreiddiau
Daw rhuddin ein geiriau:
Hen enaid ein gŵyl ninnau.