Rali Bae Ceredigion

Ydych chi’n gwylio penwythnos yma?

Enfys Medi
gan Enfys Medi

Mae’n benwythnos Rali Bae Ceredigion!

Ydych chi’n stiwardio, gwylio, gyrru penwythnos yma?

Ychwanegwch eich lluniau neu eich fideos byr i’r blog ma.

17:09

Golygfa drawiadol y Pier wrth i’r ceir adael yr ardal o flaen y bandstand!

16:54

Pencampwr Rali Prydain – Osian Pryce

Mae ’na sawl pencampwriaeth wahanol yn cael eu cyflwyno yma!

16:45

Daw buddugwr y rali o Seland Newydd, Haydn Paddon a’i gyd yrrwr 18 oed Jared. 

16:19

Tyrfa yn dechre ymgasglu i dderbyn y buddugwyr nôl i’r bandstand.

11:22

Mae’r rali yn parhau heddiw ac mae’r blog dal yn fyw!

Pwy sydd allan yn gwylio? Neu efallai bod chi’n gallu gweld y ceir yn pasio o ffenest eich tŷ neu’r ardd!

Newydd glywed sgwrs ar ‘facebook live’ gan rai sy’n ymweld â’r rali yn canmol golygfeydd godidog sy’n gefndir i’r cymalau.

Oes gyda chi lun trawiadol sy’n dangos Gogledd Ceredigion ar ei orau tra bo’r rali’n pasio? 

22:01

Mae’n debyg bo tipyn o dyrfa yn gwylio cymal 3 a 4! Ydych chi?

Cyfrannwch at y blog!

Yr ardal gwasanaethu yn dechrau prysuro eto wrth o geir ddychwelyd ar ol cwblhau cymalau’r noson! 

21:48

Mae cymal Aberystwyth wedi beni. Y ceir yn mynd mas am Glanyrafon!

21:28

John Bray, cystadleuwr lleol o Drisant.

21:11

Pob math o gerbydau yn ralio yma.

Newydd weld landrover – tîm ralio’r fyddin. 

20:39

Car electrig yn y rali yma…

Enfys Medi
Enfys Medi

A’i dyma ddyfodol y rali?

Mae’r sylwadau wedi cau.