Prosiect Cynefin y Cardi – Ysgol Penrhyn-coch

Hanes creu panel comig Cynefin y Cardi Eisteddfod Genedlaethol 2022 am Dafydd ap Gwilym gan Flwyddyn 5 a 6 Ysgol Penrhyn-coch.

gan Lynwen Evans
Llun 1
Llun 2
Llun 3

Dyma ni ger fan geni Dafydd ap Gwilym – Brogynin, Penrhyn-coch.

Llun 4
Llun 5
Llun 6
Llun 7
Llun 8

Ydych chi am glywed mwy am hanes ardaloedd bach pert Ceredigion? Wel, dyma’r cyfle wedi dod! Bachwch gopi o’r comig ar faes Eisteddfod Genedlaethol Tregaron 2022!

Diolch i swyddogion Siarter Iaith Ceredigion, bu pob ysgol yng Ngheredigion wrthi’n creu tudalen comig am bwt o hanes lleol. Am gyfle arbennig o ddysgu am, a bod yn rhan o ddiwylliant Cymru!

Cafodd bl. 5 a 6 Ysgol Penrhyn-coch y cyfle i gael gweithdy a chydweithio gyda Beth o gwmni CISP Multimedia er mwyn creu ein tudalen arbennig am un o feirdd enwocaf ein hardal ni sef Dafydd ap Gwilym. Diolch hefyd i Mr Ceris Gruffudd am gyfweliad hynod o ddiddorol am y bardd. Ni chafwyd trafferth o gwbl yn y dosbarth wrth greu ein campwaith!! Edrychwn ymlaen at weld paneli penigamp pawb ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol.

A gewch chi heddwch? Wel dim ond os fyddwch chi digon lwcus i fachu copi o’r comig! Eisteddfod Genedlaethol Tregaron amdani! Mwynhewch!