Prosiect Cynefin y Cardi gan Ysgol Comins Coch

Hanes y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth gan blant Ysgol Comins Coch.

gan Angharad Evans
BroAber360

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Buodd Blwyddyn 5 a 6 Ysgol Comins Coch yn mwynhau creu tudalen comig gyda CISP Multimedia tymor yma.

Fe wnaeth y dosbarth ddarganfod nifer o ffeithiau diddorol wrth ymchwilio hanes y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.

Mae’r adeilad wedi bod yn rhan bwysig iawn o’r dref ers iddo agor yn y flwyddyn 1937.

Diolch i CISP am y cyfle – roedd yn brofiad gwych i’r disgyblion. Fe wnaeth pawb fwynhau!

Rydym yn edrych ymlaen at weld y comig yn yr Eisteddfod!