Plant yr ardal yn serennu

Côr Blwyddyn 5 a 6 ar lwyfan y pafiliwn

Enfys Medi
gan Enfys Medi

Roedd hi’n bleser bod yn bresennol yn y pafiliwn brynhawn dydd Mawrth pan fu teilyngdod yng ngwobr goffa Daniel Owen. Llongyfarchiadau gwresog y Cardis i Meinir Pierce Jones.

Cyfarchwyd y llenor buddugol gan barti cerdd dant Aelwyd Aberystwyth a chyflwynwyd datganiad hyfryd ganddynt.

Ond heb os, côr plant blwyddyn 5 a 6 ysgolion Ceredigion oedd sêr y sioe! Roedd eu perfformiad yn llawn egni wrth iddynt ganu dwy gan, Hei ti’n Cwl a Cymry’r Plant.

Gregory Vearey-Roberts oedd yn gyfrifol am hyfforddi ac arwain y criw hwyliog. Roedd y plant wrth eu boddau yn dilyn y perfformiad ac yn wen o glust i glust.

Roedd hi mor braf gweld y plant yn cael cyfle i fod yn rhan o’r Eisteddfod Genedlaethol. Mae gyda chymaint ohonom ni atgofion melys iawn o fod yn rhan o basiant y plant yn ’Steddfod Aberystwyth!!

Da iawn i bob un ohonynt, roeddech yn wych!