Pencampwriaethau rhedeg llwybrau Cymru’n dychwelyd i Bontarfynach

Rasys llwybrau yn dychwelyd ar ôl dwy flynedd o egwyl, ac yn codi arian at achosion da lleol

gan Rhedeg Aber
274297737_2196471480504340-1

Mae’r ‘Arch’ yn un o olygfeydd enwocaf Ras y Barcud Coch

Bydd Pontarfynach yn croesawu rhai o redwyr llwybrau gorau Cymru wrth i Sialens y Barcud Coch ddychwelyd ar 30 Ebrill.

Bydd y digwyddiad rhedeg llwybrau, neu ‘redeg trêl’, a sefydlwyd yn 2003 yn ôl eleni ar ôl dwy flynedd o egwyl o ganlyniad i’r pandemig Covid-19, ac mae’n addo bod yn uchafbwynt yn hanes y ras hyd yma.

Sefydlwyd Sialens y Barcud Coch gan redwr enwocaf yr ardal, Dic Evans, gyda’r nod o ddenu’r goreuon o’r byd rhedeg llwybrau, ynghyd â phencampwriaethau rhedeg o bwys rhyngwladol, i ganolbarth Cymru. Dros y blynyddoedd mae’r digwyddiad wedi gweithredu’n rheolaidd fel pencampwriaeth Cymru a Gorllewin Cymru ar gyfer rhedwyr ieuenctid ac oedolion, ac mae’r trefnwyr yn falch o gyhoeddi bydd y pencampwriaethau hyn unwaith eto’n dod i Bontarfynach yn 2022.

Treial Cymru

Mae’n bosibl lawrlwytho ffurflenni cofrestru ar gyfer rasys ieuenctid i oedrannau o dan 13 i dan 20 oed bellach ar agor, yn ogystal â chofrestru ar gyfer y rasys 10k a ½ Marathon i oedolion. Mae’r manylion llawn a dolenni perthnasol ar wefan y digwyddiad.

Bydd y ras ieuenctid i’r oedran dan 17 oed hefyd yn cael ei defnyddio fel ras ddethol ar gyfer tîm rhedeg mynydd dan 17 Cymru, gyda chyfle i ennill lle i rasio yng Nghwpan Rhyngwladol Ieuenctid yn Salazzo, Yr Eidal ym mis Mehefin eleni.

Mae’r ½ Marathon hefyd yn ras ddethol ar gyfer rhedeg i Gymru mewn ras lwybrau rhyngwladol yn Llydaw fis Mehefin.

Cefnogi elusennau lleol

Yn ogystal â denu cystadlu o’r safon uchaf i’r ardal, nod arall Sialens y Barcud Coch ydy codi arian at achosion da lleol, a dros y blynyddoedd maent wedi llwyddo i godi dros £20,000 tuag at Ysbyty Bronglais.

Unwaith eto eleni bydd y digwyddiad yn codi arian hanfodol i gefnogi apêl uned chemotherapi Bronglais, ac mae ffurflenni nawdd ar gael i unrhyw redwyr sydd am godi arian at yr achos da yma. Bydd unrhyw un sy’n codi £50 neu fwy yn cael ad-daliad am ffi cofrestru’r ras – dylid cysylltu â Chyfarwyddwr y Ras, Dic Evans, am ffurflen.

Yn ogystal â’r rasys rhedeg mae cyfle i gerddwyr fanteisio ar y cyfle i gerdded y cwrs godidog ar y dydd, gan gynnwys ar rai llwybrau sydd ddim ar agor i’r cyhoedd fel rheol.

Mae’r trefnwyr hefyd yn galw ar fusnesau lleol i gefnogi’r digwyddiad trwy noddi’r ras neu gyfraniad ‘mewn da’.  Dylid cysylltu â Chyfarwyddwr y Ras os oes gennych ddiddordeb mewn cefnogi fel hyn: rhedwr@gmail.com

Os nad ydych am redeg, ond yn awyddus i gefnogi’r digwyddiad, yna mae galw am stiwardiaid i helpu gyda thasgau ar y dydd – cysylltwch am fwy o wybodaeth.