Llongyfarchiadau enfawr a phen-blwydd hapus iawn i Westy’r Richmond yn Aberystwyth, sydd yn dathlu pen-blwydd yn 50 heddiw. Mae’n bleser enfawr i weld busnesau teuluol yn parhau yn Aberystwyth, ac yn cynnig gwasanaeth ardderchog i’r rhai sydd yn ymweld â’r dref.
Mae’r Richmond wedi ei leoli yng nghanol promenad Aberystwyth, lle gellir mwynhau golygfeydd anhygoel o Fae Ceredigion. Cafodd y gwesty ei adeiladu yn 1840 a thu mewn i’r adeilad gellir darganfod llawer o’r nodweddion gwreiddiol. Mae’r adeilad ar restr Gradd II.
Dyma beth ddywedodd y Richmond ar ei tudalen Facebook:
“Dathlu ein Penblwydd yn 50! Mae’r teulu Griffiths yn dathlu ein penblwydd yn 50 oed yng Ngwesty’r Richmond heddiw! Hoffem estyn ein diolch diffuant i’n cwsmeriaid ffyddlon niferus o’r gorffennol a’r presennol, staff, ffrindiau a chyflenwyr sydd wedi ein helpu i gyrraedd y garreg filltir arbennig hon. Rydym yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth yn fawr ac yn edrych ymlaen at eich croesawu i gyd am flynyddoedd lawer i ddod. Diolch yn fawr am bob caredigrwydd, Richard, Jane & Ffion.”
Llongyfarchiadau mawr i chi unwaith eto, a phen-blwydd hapus.