Peidiwch â dibynnu ar eich gwefan i weithio drosoch!

Mae gennych chi wefan newydd – gwych!

Kerry Ferguson
gan Kerry Ferguson

Mae gennych chi wefan newydd – gwych! Llongyfarchiadau; ar ôl beth allai fod yn fisoedd o waith caled mae eich gwefan wedi’i lansio ac rydych chi’n barod i eistedd yn ôl a chyfri’ch bendithion! Efallai bod y wefan wedi’i sefydlu i werthu’ch cynnyrch neu hysbysebu’ch bythynnod gwyliau, efallai bod chi am i bobl ddod o hyd iddo ac yna’ch ffonio chi ynglŷn a’ch gwasanaethau anhygoel? Wel, tydi eistedd yn ôl a llaesu dwylo ddim yn mynd i ddod a llwyddiant.

Er enghraifft, rydych wedi creu crefftau hardd wedi’u personoli i’w gwerthu. Mae gennych chi wefan e-fasnach newydd ac rydych chi’n aros am yr archebion. Yn ystod y dyluniad, mae’n debyg i’ch datblygwr weithio gyda chi ar rywfaint o optimeiddio peiriannau gwe sylfaenol, i sicrhau eich bod wedi’ch cofrestru ar beiriannau chwilio a graddio ar gyfer yr holl ymadroddion allweddol pwysig hynny. Felly ‘da chi yn barod amdani? Ddim cweit!

Dychmygwch fod gennych siop ar stryd dawel mewn tref dwristaidd brysur – mae’r siop yn cael rhywfaint o ymwelwyr, ond pe byddech yn  gosod ychydig hysbysebion o amgylch y dref  yn cyfeirio pobl i’r siop, byddai cynnydd yn eich ymwelwyr. Gadewch i ni ddweud eich bod chi hefyd yn hysbysebu yn y papurau lleol, neu’n gadael posteri mewn siopau eraill, bydd eich nifer yn cynyddu eto. Mae union yr un egwyddor ar-lein.

Felly beth allwch chi wneud i gyfeirio pobl at eich gwefan?

  1. Byddwch yn gymdeithasol – trwy fod yn weladwy ar rai platfformau cyfryngau cymdeithasol, gallwch gyfeirio pobl i’ch gwefan a hysbysebu’ch cynnyrch / gwasanaethau. Mae hefyd yn gyfle gwych i arddangos eich hun ar-lein gyda’ch gwasanaeth cwsmeriaid gwych! Gyda gwefan, ‘does gennych chi ddim cyfle i gael sgwrs yn y siop, felly gallwch greu argraff ffafriol trwy fod ar gyfryngau cymdeithasol.
  2. Gweithio ar optimeiddio eich peiriannau gwe – peidiwch ag anghofio eich SEO unwaith y bydd y wefan yn fyw. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n cofrestru ar gyfer Google Analytics ac yn rhoi amser i edrych trwy’r data mae’n ei gasglu ar eich cyfer chi. Gallwch weld pa dudalennau y mae pobl yn ymweld â nhw, ydyn nhw’n gadael ar dudalen benodol (ac os felly, ydy’r dudalen honno’n gwneud yr hyn ddylai?), faint o bobl sy’n ychwanegu eitemau at y fasged ond nad ydyn nhw’n dilyn drwodd a phrynu ac yn y blaen. Trwy olrhain a defnyddio’r data yma, gallwch addasu eich SEO a’ch gwefan fel bo’r angen.
  3. Ystyriwch dalu am hysbysebion ar-lein – gallai hyn fod naill ai ar beiriannau chwilio neu ar gyfryngau cymdeithasol. Cysylltwch â ni heddiw am sgwrs ar sut y gallwn eich helpu.
  4. Peidiwch ag anghofio’r dulliau traddodiadol! Dyw’r ffaith bod y byd yn fwyfwy digidol gyfeiriedig ddim yn golygu dylid hepgor marchnata cyffredinol gyda deunydd ysgrifenedig yn llwyr! Argraffwch y taflenni, gwnewch yn siŵr bod eich cardiau busnes yn edrych yn wych ac ewch allan i ledaenu’r gair.

Byddwn bob amser yn synnu pan fydd cwsmeriaid yn dod atom ac yn dweud “nid yw fy ngwefan yn gweithio i mi” – ac, wedi i chi ofyn pa farchnata maent yn ei wneud ar ei chyfer, yn ateb fel arfer, “dim byd!”. Mae’n rhaid i chi drin eich gwefan fel pe bai’n siop gorfforol – edrychwch ar ei hol a buan iawn bydd pobl yn dod i ymweld.

Wrth gwrs mae llawer mwy o ffyrdd y gallwch helpu i gynyddu traffig gwefan, dim ond megis dechrau yw hyn!

Kerry Ferguson, Gwe Cambrian Web Cyf – Aberystwyth. cambrianweb.com