Parêd Noddedig Dydd Gŵyl Dewi

Cylch Meithrin Glan y Môr, Llanrhystud 

gan Nia Harries
Plant y Cylch yn paratoi ar gyfer y Parêd.

Fel Cylch Meithrin elusennol mae’n rhaid i ni feddwl am ddigwyddiadau codi arian o hyd.

Gan fod rheolau Covid wedi ‘u llacio penderfynon ni drefnu parêd noddedig Dydd Gŵyl Dewi o amgylch y pentre’.

Braf oedd gweld cymaint o blant bach a’u teuluoedd wedi gwisgo mewn gwisgoedd traddodiadol Gymreig  a dillad lliwiau ein cenedl.

Buom yn hynod o lwcus o’r tywydd wrth i’r ddraig goch a’r traed bach droedio drwy Lanrhystud. Rydym yn ddiolchgar iawn o’r gefnogaeth barhaol a’r noddwyr sydd wedi bod yn hael iawn unwaith eto.

1 sylw

Mae’r sylwadau wedi cau.