Diolch Gruff am bob adroddiad rwyt wedi gyfrannu i’r wefan fro. Maent wedi bod yn wych. Pob lwc gyda’r arholiadau.
Am ffordd i ddathlu milfed gêm Aber yn ein Cynghrair Cenedlaethol, y clwb cyntaf i gyrraedd y gyrraedd y garreg filltir yma, gyda buddugoliaeth o ddwy gôl i ddim o flaen torf wych o 883. Chwarae teg i’r clwb am gynnig mynediad am ddim i’r cefnogwyr i ddathlu’r achlysur. Dyma fuddugoliaeth holl bwysig sy’n codi Aber i’r 9fed safle yng Nghynghrair JD Cymru, 5 pwynt o flaen Hwlffordd sy’n aros yn un o’r gwaelod.
O flaen torf ddisgwylgar, dechrau digon pwyllog gafwyd i’r gêm. Hwlffordd yn rheoli’r meddiant yn chwarae ar draws y cefn ond heb edrych yn fygythiol iawn. Aber ar y llaw arall yn fwy unionyrchol. Roedd rhaid aros tan 11 munud am un o gyfleoedd gorau’r hanner. Veale a Thorn yn cyd-chwarae ar yr asgell dde cyn croesi i’r canol. Franklin yn ymestyn ei droed ac yn gwyro’r bêl heibio’r postyn.
Yn sicr, Jordan Davies oedd y chwaraewr peryclaf i Hwlffordd yn yr hanner cyntaf. Wedi 13 munud cafodd ei ail gyfle o’r gêm, ergydiodd o 25 llath ond Zabret yn ymestyn ei law yn isel i wthio’r ergyd heibio’r postyn.
Wrth i’r hanner fynd yn ei flaen, dechreuodd Aber gau lawr Hwlffordd yn uwch lan y cae a sicrhau mwy o feddiant. Peniodd Steff Davies dros y trawst ac fe darodd taran o ergyd gan Thorn fraich amddiffynwyr Hwlffordd yn y blwch cosbi. Chwarae ‘mlaen oedd penderfyniad y dyfarnwr. 0-0 ar yr hanner.
Cafwyd dechrau llawer mwy bywiog i’r ail hanner. Sam Phillips â chyfle cynnar i Aber wedi 48 munud. Ergydiodd heibio’r postyn o ymyl y blwch. Cafodd Aber gyfle gwych arall wedi 55. Croesiad gan Matty Jones o’r asgell chwith ond Bradford yn penio heibio’r postyn.
Roedd gwaith caled Aber yn cau lawr chwaraewyr yn talu ar ei ganfed ac Aber yn parhau i ennill rhan fwyaf o’r brwydrau yn yr awyr. Wedi 62 munud, gwelwyd Franklin yn arddangos ei sgiliau cyn cael ei lorio ger y lluman cornel ac ennill cic rydd. Cafodd Hwlffordd drafferth i glirio’r gic gan Veale ac ergydiodd Sam Phillips y bel i gefn y rhwyd. Ond na – cic rydd i Hwlffordd.
Ond doedd dim angen i Phillips aros yn hir. Daeth trobwynt y gêm wedi 64 munud. Oedi yn y cefn gan Hwlffordd a Phillips yn cau lawr yr amddiffynwyr Dylan Rees. Cam reoli gan Rees a Phillips yn casglu’r bêl rydd cyn ergydio o ochr dde’r cwrt cosbi ar draws Idzi yn y gôl ac i mewn i’r rhwyd. Aber ar y blaen a’r dorf yn dathlu. 1-0 a Phillips yn sgorio ei drydedd gôl mewn dwy gêm.
Cafwyd ymateb syth gan Hwlffordd wrth iddynt ddechrau chwarae’n fwy uniongyrchol ac fe ergydiodd Watts dros y trawst. Cyn pen dim roedd Watts yn gadael y cae ac un o arwyr Hwlffordd Henry Jones yn dod i’r maes wedi cyfnod hir allan gydag anaf.
Ond roedd Aber yn dal yn creu cyfleon. Thorn yn casglu’r bêl yng nghanol y cae ac yn ergydio am gôl. Y golwr Idzi yn gwneud arbediad da ond y bêl yn y pen draw yn adlamu i Franklin. Wrth iddo reoli’r bêl dyma Idzi yn ei lorio. Cic o’r smotyn i Aber.
Aeth pethau o ddrwg i waeth i Hwlffordd. Henry Jones yn derbyn cerdyn coch am gega gyda’r dyfarnwr. Camodd Matty Jones yn hyderus tuag at y bêl a’i ergydio i gornel y rhwyd. Aber dwy gôl ar y blaen wedi 74 munud. Buddugoliaeth arall ar y gorwel?
Am weddill y gêm Hwlffordd oedd yn ymosod ac yn creu cyfleoedd gydag Aber yn hapus i glirio’r bêl lawr y cae yn hytrach na rheoli’r meddiant.
Am unwaith dim goliau hwyr ac er mawr ryddhad i’r dorf dyma Aber yn sicrhau buddugoliaeth bwysig. Mawr oedd y dathlu gan y dorf a’r chwaraewyr ar y diwedd. Pawb nawr yn edrych ‘mlaen i’r gêm nesaf yn Hwlffordd wythnos i nos Wener.
Pa ffordd well i orffen fy adroddiadau o gemau cartref Aberystwyth? Mae’r amser wedi dod i ddweud ffarwel a diolch i chi’r darllenwyr am eich cefnogaeth. Amser i roi ychydig mwy o sylw i’r gwaith addysgiadol!!!
Erthygl a’r lluniau gan Gruff a Huw