Newyddion o fyd Dysgu Cymraeg

Cyfle i chi gefnogi dysgwyr neu wella eich Cymraeg

Siôn Meredith
gan Siôn Meredith

Dyna haf bythgofiadwy! Roedd Maes D yn Nhregaron yn llwyddiant ysgubol gyda gweithgareddau cyffrous ac amrywiol bob dydd a llwyth o ymwelwyr o Gymru a phedwar ban byd.

Cynhaliwyd ein Cwrs Awst fel arfer, a bu rhyw gant o ddysgwyr ar bob lefel yn dysgu o fore gwyn tan nos trwy gydol y mis.

Ar ben hynny i gyd, mae Estyn newydd gyhoeddi ei adroddiad ar Ddysgu Cymraeg Ceredigion, Powys a Sir Gâr, sydd yn rhan o Brifysgol Aberystwyth, yn dilyn arolwg ym mis Mai. Bu cyfarfodydd gyda’r dysgwyr, y tiwtoriaid, y staff gweinyddol a’r rheolwyr, ac fe ddaeth yr arolygwyr i weld nifer sylweddol o ddosbarthiadau yn ystod yr wythnos.

Mae Estyn yn ystyried pum maes yn ei adroddiadau gan gynnwys dysgu (hynny yw cynnydd y dysgwyr) ac addysgu, sef gwaith y tiwtoriaid. Barn yr arolygwyr yw bod yr adran yn rhagori mewn pedwar o’r meysydd hynny a bod un arall yn dda.

Diolch o waelod calon i bawb, gan gynnwys pobl Ceredigion sy’n cefnogi ein dysgwyr yn y dosbarthiadau, yn y Cynllun Siarad ac yn eich cymunedau o ddydd i ddydd, am y canlyniadau aruthrol hyn.

Bydd ein dosbarthiadau’n ailddechrau ar 17eg Medi, ac mae’r niferoedd yn edrych yn addawol iawn ar bob lefel.

Am y tro cyntaf ers dechrau’r pandemig bydd nifer o ddosbarthiadau’n cwrdd wyneb yn wyneb, er y bydd y rhan fwyaf o’r grwpiau’n yn parhau ar Zoom. Y bwriad yw cynnig mwy o ddosbarthiadau wyneb yn wyneb o’r hyn ymlaen, ond mae dysgu ar-lein wedi hen ennill ei blwyf fel ffordd dda o gyrraedd dysgwyr na fyddent yn dod i’r ystafell ddosbarth fel arall.

Newyddion da hefyd yw bod y Ganolfan Genedlaethol Dysgu Cymraeg a Llywodraeth Cymru wedi cytuno i gynnig dosbarthiadau am ddim i bawb o dan 25 oed o fis Medi ymlaen.

Yn ogystal â’r dosbarthiadau “prif-ffrwd”, sef ein dosbarthiadau traddodiadol, mae Dysgu Cymraeg Ceredigion, Powys a Sir Gâr yn cynnig ystod o gyrsiau arbennig ar gyfer athrawon, rhieni sydd â phlant mewn ysgolion Cymraeg a chyrsiau Cymraeg yn y Gweithle.

Un o’r cyrsiau arloesol newydd yw Codi Hyder ar gyfer siaradwyr Cymraeg sy’n gweithio i’r gwasanaeth iechyd, gyda’r nod o fagu hyder pobl sy’n gallu siarad Cymraeg ond sy ddim yn teimlo’n ddigon hyderus i ddefnyddio’r iaith.

Mae yna rywbeth i bawb felly, gan gynnwys cyrsiau ar gyfer siaradwyr Cymraeg sydd am wella eu sgiliau yn yr iaith, ond nod pob un o’r cyrsiau hyn yw creu siaradwyr fydd yn rhoi’r iaith ar waith yn eu cymunedau, a dyna pam mae cefnogaeth pobl ar lawr gwlad mor bwysig.

Allwch chi roi peth o’ch amser i helpu dysgwr? Dim ond awr neu ddwy bob mis efallai? Os felly, cysylltwch â mi, Richard Vale (e-bost riv1@aber.ac.uk), neu ffoniwch y swyddfa yn Aberystwyth ar 0800 876 6975 a gadael neges.

Am fwy o wybodaeth, ewch at ein gwefan ddwyieithog a lledwch y gair:

https://dysgucymraeg.cymru/amdanom-ni/darparwyr-cyrsiau/prifysgol-aberystwyth/

Ymlaen at y filiwn!