Nadolig ym Marchnad Pontarfynach

Sioe a sêl yr Ŵyl

Y Ddolen (papur bro)
gan Y Ddolen (papur bro)
mart_1

Mari Davies, Dolcoion

mart_2

Tom Lewis, Sarnau

Roedd hi’n ddiwrnod prysur arall lan ym mart ‘Bridge’ ar 7 Rhagfyr pan gynhaliwyd y sioe a sêl Nadolig blynyddol. Diwrnod cymdeithasol arall yn y mart.

Gareth Lewis fu’n beirniadu ar y diwrnod. Llongyfarchiadau mawr i Mari Davies, Dolcoion ar ennill y brif bencampwriaeth ac i Tom Lewis, Sarnau ar gael y gil wobr.

Ar y cyfan gwerthodd y stoc yn dda. Roedd hi’n ddiwrnod arbennig hefyd gan fod ŵyn wedi eu rhoi gan ffermwyr lleol i’w gwerthu i godi arian i elusen Motor Neurone Disease. Codwyd £1,469 i’r elusen. Swm ardderchog.

Dyma ganlyniadau’r sioe.

Dosbarth CFfI

  1. Mari Davies, Dolcoion
  2. Huw Lewis, Sarnau
  3. Sara Griffiths, Penywern

Cyfandirol 35kg+

  1. Tom Lewis, Sarnau
  2. George, Penywern
  3. Tom Evans, Pendre

Cyfandirol 35kg

  1. Sian Davies, Pantygamddwr
  2. Prys Lewis, Dwylan
  3. Griffiths, Nanty

Brodorol 35kg+

  1. Griffiths, Nanty
  2. Jones, Rhydygof
  3. Morgan, Pentre

Brodorol 35kg

  1. Jones, Rhydygof
  2. Lewis & Davies, Dolcoion
  3. Lal Evans, Rhosyrhiw

Diweddglo da i flwyddyn arall brysur yn hanes y mart. Eleni gwelwyd hynt a helynt mart Bridge ar gyfres deledu ‘The Mart’ ar ITV – mae’r cymeriadau nawr yn enwog drwy’r wlad!

Mae un sêl ar ôl eleni eto – galwch draw i weld y gwerthu ar ddydd Mercher 14 Rhagfyr.