Dod i nabod Llambed

Cerdded rownd y dref yng nghwmni dysgwyr Ceredigion

gan Anwen Pierce

Ar 21 Mai, daeth criw o bobl o bob oed, yn ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg rhugl, at ei gilydd yn Llambed i gael taith gerdded dan ofal Ann Bowen Morgan. Mae’r dysgwyr hyn yn rhan o’r cynllun dan nawdd Eisteddfod Ceredigion i hybu dysgu Cymraeg. Roedd yn bnawn heulog, ac Ann yn dywysydd penigamp! Cafwyd cyflwyniad i hanes y coleg a golwg ar y capel trawiadol o hardd sydd ar y campws. Wyddoch chi mai yn Llambed yn 1866 y cynhaliwyd y gêm rygbi gyntaf ar dir Cymru? Dyna pam bod cerflun o bêl rygbi enfawr ar y campws. Aeth y criw o gwmpas y dref a chael hanes ambell adeilad a chymeriad nodedig cyn troi am gaffi’r Hedyn Mwstard.

Roedd yn hyfryd cael cwrdd â phawb – mae nifer ohonom wedi bod yn sgwrsio dros Zoom ers misoedd felly roedd cael cyfle i siarad wyneb yn wyneb yn arbennig.  Diolch i Medi ac Ann am drefnu pnawn difyr ac i bawb am eu cwmni. Bydd y daith nesa yn Aberteifi ddiwedd Mehefin, cyn i ni droi’n golwg am Dregaron fis Awst!