‘Er dy les di’ yn mynd i’r Eisteddfod!

Cwmni lleol sy’n hyrwyddo lles yn paratoi at y brifwyl

gan Rhiannon Parry

Er dy les di’n mynd i’r Eisteddfod!

Ychydig wnes i feddwl y byddwn i byth yn mynd â stondin i’r Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron. Ond yn ystod y cyfnod clo fe wnes i ddechrau creu adnoddau Iechyd a Lles a Phositifrwydd, yn bennaf ar gyfer disgyblion ysgol. A nawr dwi’n creu pethau ar gyfer plant ac oedolion hefyd.

Mae’r misoedd diwethaf hyn wedi bod yn rhai cyffrous, ac yn dipyn o straen hefyd, wrth imi geisio sicrhau fod popeth yn barod gennyf. Doedd gen i fawr o syniad gan nad ydw i erioed wedi gwneud y fath beth o’r blaen!

Mi wnes i gymryd y cam cyntaf i ymgyfarwyddo drwy fynd â stondin i’r Ŵyl Canol Dre yng Nghaerfyrddin ym mis Gorffennaf, ac roedd hwn yn brofiad difyr a diddorol.

Dwi bellach yn ceisio paratoi drwy gyfri’r stoc ac ymarfer sut i osod fy mwrdd yn y babell artisan rwy’n ei rhannu gyda ffrind sydd hefyd â chwmni creu nwyddau naturiol, sef SINSIR. Mae’r ddwy ohonom yn edrych ymlaen ond yn betrusgar hefyd gan ein bod yn gwneud rhywbeth hollol newydd!

Mae gen i rai adnoddau newydd sydd wedi eu creu’n arbennig ar gyfer eu gwerthu ar stondinau. Ond dechreuodd popeth gyda llyfrynnau lliwio i blant.

Gallwch weld y cynnyrch amrywiol ar fy ngwefan ond rwy’n gwerthu’r rhan fwyaf ar Facebook. Felly, dwi’n wirioneddol yn edrych ymlaen i gwrdd â fy nghwsmeriaid a’r rheini sy’n fy nilyn ar y cyfryngau cymdeithasol. Hefyd dwi’n edrych ymlaen at gael enw ‘Er dy les di’ allan yna, fel petai, yn y gobaith y bydd athrawon dros Gymru benbaladr yn gweld fy adnoddau. Athrawes ydw i a dydw i ddim yn bwriadu newid fy swydd ond rwyf wirioneddol wedi mwynhau gweld fy musnes bach yn tyfu a datblygu, a minnau’n rhoi cynnig ar greu pob math o adnoddau newydd! Rwyf hefyd yn lwcus iawn o gael cefnogaeth fy nheulu ac mae fy merched i gyd yn rhoi help llaw pan fo angen – mae’r ieuengaf yn aml yn modelu fy adnoddau!

Gobeithio y gwela i chi yno – cofiwch alw draw!