Murlun newydd ar Gae Piod, Bow Street

Dathlu cyfraniad Rhys Norrington-Davies i lwyddiant tîm Pêl-droed Cymru

Marian Beech Hughes
gan Marian Beech Hughes

Mae murlun newydd sbon o un o sêr tîm pêl-droed Cymru wedi ymddangos ym mhentref Bow Street dros y diwrnodau diwethaf, a hynny fel rhan o brosiect gan y Mentrau Iaith i ddathlu Cymru yn cyrraedd Cwpan y Byd FIFA am y tro cyntaf ers 1958.

Yn ddiweddar, mae murluniau wedi ymddangos ar draws y wlad o rai o chwaraewyr Cymru yn y lleoliadau hynny lle cawson nhw eu magu, e.e. Joe Allen yn Arberth, Gareth Bale yng Nghaerdydd a Joe Rodon yn Abertawe. Bellach gellir cyhoeddi mai’r amddifynnwr Rhys Norrington-Davies yw testun y pedwerydd murlun yn y gyfres, a hynny yng Nghlwb Pêl-droed Bow Street lle chwaraeodd Rhys pan oedd yn ifanc.

Dywedodd Wyn Lewis, Cadeirydd CPD Bow Street:

Mae’r clwb mor falch o lwyddiant Rhys dros y blynyddoedd diwethaf. Dechreuodd Rhys ei yrfa bêl-droed yma ar Cae Piod ac mae’n rhoi pleser mawr i ni cael murlun ohono wrth y cae. Wrth gwrs, mae ei anaf diweddar yn golygu na fydd Rhys yn chwarae yng Nghwpan y Byd, ond wedi siarad gyda’i deulu a gyda Rhys ei hun mae pawb wedi bod yn frwd dros barhau gyda’r murlun o gofio y buodd yn rhan bwysig o’r ymgyrch i gyrraedd Qatar.’

Dywedodd Steff Rees, Arweinydd Tîm Cered: Menter Iaith Ceredigion:

‘Roedd yn wych cael cydweithio gyda CPD Bow Street, Mentrau Iaith a’r artistiaid graffiti Tegeirin a Lloyd The Graffiti ar y prosiect yma i ddathlu’r Cardi sydd wedi helpu i sicrhau lle Cymru ar lwyfan chwaraeon mwya’r blaned. Gobeithio bydd hyn yn ysbrydoli’r chwaraewyr ifanc yn y timoedd ieuenctid i weld bod modd iddyn nhw hefyd fynd ymlaen i chwarae’n broffesiynol a chynrychioli Cymru.’

Mae rhwydwaith y Mentrau Iaith yn un o’r partneriaid allweddol ym Mhartneriaeth Cwpan y Byd Llywodraeth Cymru ac yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau cyffrous i ddathlu tîm pêl-droed Cymru a’u llwyddiant o gyrraedd Cwpan y Byd Pêl-droed yn Qatar eleni. Mae mwy o wybodaeth am y gweithgareddau ar gael ar wefan Mentrau Iaith Cymru ac ar y cyfryngau cymdeithasol.