Melanie: Cyflwynydd Newydd Ffermio

Mae wyneb cyfarwydd yn ymuno â chriw cyflwyno Ffermio ar S4C, sef Melanie Owen o Gapel Seion.

gan Melanie Owen

Mae wyneb cyfarwydd yn ymuno â chriw cyflwyno Ffermio ar S4C, sef Melanie Owen o Gapel Seion. Dyma bwt o’i chefndir.

Rho fraslun o dy gefndir i ni a lle ces ti dy fagu?

Cefais i fy magu ar ffarm yng Nghapel Seion. Es i i’r ysgol yn y pentref, cyn symud i Benglais, ac yna ymlaen i Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Rennes yn Ffrainc. Dwi bellach yn byw yng Nghaerdydd ond yn dod adre i Aber yn aml.

Wyt ti wastad wedi cael diddordeb mewn amaeth/cefn gwlad?

Fel merch ffarm yng Ngheredigion, mae bywyd cefn gwlad wedi bod yn rhan o bwy ydw i. Pan roeddwn i’n ifanc, roeddwn i o hyd tu allan gyda’r anifeiliaid yn helpu Dad-cu neu yn gofalu am y ceffylau. Byddwn i byth yn gallu byw yn bell o’r wlad.

Beth wyt ti’n edrych ymlaen ato fwyaf am y gwaith?

Mae bod ar Ffermio yn freuddwyd i mi. Rydw i wir yn edrych ymlaen i ddarganfod beth fydd dyfodol y byd amaeth yn edrych fel yng Nghymru a siarad â’r ffermwyr fydd yn llywio’r diwydiant ymlaen.

Mae lleisiau ifanc a lleisiau mwy profiadol yn hanfodol i’r drafodaeth a dwi’n gobeithio darparu platfform i’r ddau.

Beth yw’r heriau sy’n wynebu’r sector yn dy farn di?

Mae datblygiadau polisïau ynglŷn â newid hinsawdd yn mynd i effeithio ar ffermwyr, felly mae’n allweddol bod gan y ffermwyr yna le wrth y bwrdd iddynt gael dweud eu dweud am ochr nhw o’r sefyllfa. Mae’r naratif presennol gallu rhoi bai ar y byd amaeth sydd, fel rydyn ni’n gwybod, yn anghywir. Mae angen i ffermwyr gael eu clywed er mwyn i’r anwireddau yma gael eu cywiro.

Rhanna gyfrinach â ni

Unwaith, pan oeddwn yng nghanol Caerdydd, nes i grïo achos roedd arogl ceffylau’r heddlu yn fy atgoffa i gymaint o fy ngheffylau i nôl yn Aberystwyth ac roeddwn i’n gweld eisiau nhw gymaint. Roedd fy ffrindiau i gyd yn meddwl bo fi’n mad!