Fel rhan o ddathliadau Gŵyl Ddewi, mae’r Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, wedi cyhoeddi 11 o brosiectau cyfalaf newydd i gefnogi twf yr iaith Gymraeg.
Mae un o’r rhain yn Aberystwyth sef £5.7m wedi cael ei ddyrannu i greu Canolfan Drochi Iaith Gymraeg a bloc o ystafelloedd dosbarth a fydd yn ychwanegu lle i 30 o ddisgyblion ychwanegol yn Ysgol Gymraeg Aberystwyth.
Bwriad Canolfan Drochi Iaith Gymraeg yw i help plant sydd wedi symud i’r ardal i wella eu Cymraeg i lefel lle maent yn gallu parhau gyda gweddill eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae’r cyllid, sydd werth cyfanswm o dros £30 miliwn ar draws Cymru, wedi’i anelu at gynyddu capasiti mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg, sefydlu darpariaeth cyfrwng Cymraeg newydd a chefnogi’r gwaith o drochi disgyblion yn yr iaith yn gynnar yn ogystal â helpu dysgwyr o bob oed i wella’u sgiliau a meithrin hyder yn y Gymraeg.
Y Cynghorydd Catrin Miles yw’r Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, Cymorth ac Ymyrraeth.
Dywedodd:
“Mae cyhoeddiad heddiw yn newyddion gwych i ni yng Ngheredigion, a bydd yn helpu i roi hwb i’n gweledigaeth o gryfhau’r Gymraeg yn ein cymunedau. Dydd Gŵyl Dewi Hapus!”
I ddarllen y datganiad llawn a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, ewch i: https://llyw.cymru/prosiectau-mawr-newydd-yn-cael-eu-cyhoeddi-i-helpu-twf-yr-iaith-gymraeg