Lansio visitaberystwyth.com

Dros y penwythnos lansiwyd gwefan gymunedol newydd ar gyfer Aberystwyth, o’r enw visitaberystwyth.com.

Kerry Ferguson
gan Kerry Ferguson

Dros y penwythnos, lansiwyd gwefan gymunedol newydd ar gyfer Aberystwyth, o’r enw visitaberystwyth.com.

Crëwyd y wefan gan Emlyn Jones a Kerry Ferguson, sy’n rhedeg Gwe Cambrian Web yn y dref. Mae’r ddau yn aelodau gweithgar o’r gymuned, ac roedd y wefan mewn ymateb i alwadau cynyddol am wefan gymunedol ar gyfer y dref.

“Mae calendr digwyddiadau ar gyfer y dref wedi cael ei drafod ers sbel, ac yn yr wythnosau diwethaf bu trafodaethau gyda gwahanol grwpiau am gyfeirlyfr busnes. Yn ystod cyfarfod ddiweddar gyda Cynnal y Cardi am y prosiect Adfywio Trefi sydd ar gyfer Aberystwyth, awgrymwyd hyn fel un o’r prosiectau.  Yn sgil hyn euthum ar waith i ddod a hyn yn realiti, a defnyddio ein sgiliau i gyfrannu i’r gymuned”, meddai Kerry.

Mae Emlyn yn awyddus i weld y busnesau lleol, grwpiau cymunedol a threfnwyr digwyddiadau yn defnyddio’r wefan yn rheolaidd.

“Y gobaith yw bod y wefan yma yn dod yn i adnodd gwerthfawr i fusnesau, grwpiau a digwyddiadau lleol – gall pawb fewngofnodi ac ychwanegu eu post eu hunain, ac adnewyddu’r wybodaeth yma hefyd. Nid yw hon yn wefan statig, rydym am iddi fod yn ddeinamig, ac yn nwylo’r gymuned. Wrth edrych ymlaen, gobeithio y daw’n wefan gwerthfawr i ymwelwyr yn yr ardal hefyd”.

Mi fydd ochr Cymraeg yn dod yn fuan, gyda Kerry ac Emlyn yn awyddus iawn i wneud yn siŵr bod popeth yn ddwyieithog.

Mae Kerry hefyd yn cynnig sesiynau hyfforddi marchnata digidol am ddim yn Aberystwyth i fusnesau dros y misoedd nesaf – os oes gennych ddiddordeb yn hyn, cysylltwch â Kerry ar kerry@cambrianweb.com.

Gallwch hefyd edrych ar weminarau Gwe Cambrian web, a gweithdai sydd ar y gweill ar wefan Gwe Cambrian Web.