Lansio Teithiau ‘Ar Gered’

Cered yn cynnal y gyntaf mewn cyfres o deithiau cerdded Cymraeg yn ardal y Topie

Steff Rees (Cered)
gan Steff Rees (Cered)

Ydych chi wedi cerdded at Fedd Taliesin? Dyna wnaeth 22 o gerddwyr egnïol ddydd Sadwrn, 15 Ionawr, wrth i Cered gynnal y gyntaf mewn cyfres o deithiau cerdded cyfrwng Cymraeg sy’n dwyn yr enw ‘Ar Gered’ yn ardal y Topie.

Taith gylchol o bum milltir oedd hon o Cletwr, Tre’r-ddôl. Dan arweiniad Steff Rees, cafwyd taith yn llawn golygfeydd godidog o fynydd a môr gyda Chadair Idris, y Tarennau ac aber Afon Dyfi yn glir i’w gweld.

Cafodd ambell hanes a chwedl eu rhannu, megis hanes y diwydiant creu hetiau, a chwedlau Bedd Taliesin ac Ogof Morris. Mae Ogof Morris wedi ei lleoli ar lethrau’r Foel Goch uwchben Tre’r-ddôl ac mae rhai o’r farn taw dyma oedd cuddfan Morris – lleidr drwgenwog lleol a grogwyd yn Aberteifi.

Nod ‘Ar Gered’ yw creu cyfle cymdeithasol newydd i drigolion gogledd Ceredigion a thu hwnt i ddefnyddio’r Gymraeg a darganfod ardal y Topie, sydd mor brydferth ac mor ddiddorol ar gyfer cerdded, ond sydd yn anghyfarwydd i lawer.

Mae’r teithiau yma’n croesawu siaradwyr Cymraeg o bob gallu – boed yn ddysgwyr neu’n siaradwyr rhugl. Braf oedd clywed cymaint o sgyrsiau cyfeillgar a naturiol rhwng siaradwyr Cymraeg profiadol a siaradwyr mwy newydd.

Bydd taith nesaf Ar Gered yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn, 19 Chwefror, ac yn cychwyn yng Nglandyfi cyn dilyn llwybrau bach pert er mwyn dysgu mwy am Ffwrnais Dyfi, cael blas ar hyfrydwch Cwm Einion a gweld un o olygfeydd gorau Bro Aber, sef yr olygfa o ben y Foel Fawr. Am ragor o wybodaeth ac i gofrestru ar gyfer y daith, cysylltwch â Steff ar steffan.rees@ceredigion.gov.uk neu 07580 536 518.

Diolch i Rachel, Cydlynydd Gweithgareddau Cletwr, am dynnu’r lluniau gwych yma ac am ei chefnogaeth yn trefnu a hyrwyddo’r daith.