O Landdeiniol â chariad

Galwch draw i’n pentref cariadus i dynnu’ch llun!

Enfys Medi
gan Enfys Medi

Mae coeden Nadolig y pentref wedi ysbrydoli ymgyrch newydd. Ailgylchwyd hi i fod yn goeden gariad i ddathlu’r cyfnod rhwng Santes Dwynwen a Sant Ffolant!

A dyma gael syniad – beth am ledaenu’r cariad ychydig yn bellach.

Gosodwyd ffrâm gariadus yng nghanol y pentref (ar bwys yr Hen Ysgol) i bobl neu anifeiliaid (!) ddod i dynnu ei llun. Gofynnwn i bawb rannu eu lluniau ar y gwefannau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashnod #olanddeiniolachariad a rhoi cyfraniad bach ar ein tudalen Just Giving a’n helpu i godi arian i Ambiwlans Awyr Cymru. Does wybod pryd fyddwn ni angen y gwasanaeth.

Tudalen Just Giving

Galwch draw i Landdeiniol yn ystod y bythefnos nesaf a thynnu llun yn y ffrâm a’n cynorthwyo ni i rannu’r cariad o’n pentref bach ni.

Diwrnod Santes Dwynwen hapus i chi gyd.