Ym mis Hydref fe fydd Iwcadwli, sef y gerddorfa iwcalilis leol sydd yn cael ei rhedeg gan Cered: Menter Iaith Ceredigion yn bedair blwydd oed. I nodi’r achlysur mi fydd yna gwrs arbennig i ddechreuwyr yn cychwyn er mwyn ceisio denu aelodau newydd at fyd yr iwcs a’r dwli!
Ers ei sefydlu ym mis Hydref 2018, mae Iwcadwli wedi datblygu i fod yn gerddorfa iwcalilis gydag oddeutu 30 aelod. Maen nhw’n cwrdd yn wythnosol yn Aberystwyth, ac yn ddiweddar fe fuon nhw’n diddanu cynulleidfaoedd yn yr Eisteddfod ac yn y Bandstand.
Fe fydd y cwrs Iwcadwli i Ddechreuwyr yn croesawu unrhyw un sydd â diddordeb mewn dysgu’r iwcalili i lefel sylfaenol mewn cyfnod byr. Ar ddiwedd y cwrs fe fyddwch yn gallu ymuno ag ymarferion cerddorfa Iwcadwli.
Cwrs cyfrwng Cymraeg yw Iwcadwli i Ddechreuwyr ac fe estynnir croeso i siaradwyr Cymraeg o bob lefel, gan gynnwys dysgwyr brwd.
Bydd Iwcadwli i Ddechreuwyr yn cychwyn am 6yh nos Fawrth, Hydref 4ydd, yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth, cyn parhau yn wythnosol am 10 wythnos hyd at y Nadolig. Pris y cwrs yw £30.
Os oes gennych ddiddordeb ac am gofrestru, e-bostiwch steffan.rees@ceredigion.gov.uk.