Iaith ar waith

‘Tips Gramadegol’ Siarter Iaith Ceredigion – fideos Ysgol Penweddig

Anwen Eleri Bowen
gan Anwen Eleri Bowen

Un o brosiectau diweddaraf Siarter Iaith Ceredigion yw’r prosiect ‘Tips Gramadegol’.  Er bod y cynllun ar waith ers sawl mis; mae ffrwyth llafur y criw ar gael i’w weld erbyn hyn.

Bwriad y cynllun ‘Tips Gramadegol’ oedd creu fideo i ddrilio sgìl ieithyddol, gyda’r nod o wella sgiliau ysgrifennu disgyblion.

Mi aeth yr ysgolion ati i feddwl a dewis sgìl yr oeddent am rannu ag eraill, meddwl am gân, neu roedd croeso iddynt fynd ati i gyfansoddi, bwrw ati i greu geiriau ac yna meddwl am gynnwys i’w fideo.

Diolch i Sam Ebenezer am gynnal gweithdy creu gyda’r ysgolion ac yna am ei amser a’i amynedd wrth recordio’r lleisiau, ffilmio a golygu.

Roedd yn gyfle a phrofiad arbennig i bawb – cafwyd tipyn o hwyl wrth greu!

Mae pedwar fideo hyd yma yn rhan o’r rhestr chwarae. Dyma fideo Ysgol Gyfun Penweddig. Diolch i’r disgyblion a’r staff am eu gwaith.

Gobeithio gwnewch chi fwynhau, a phwy a ŵyr efallai y dysgwch chi rywbeth hefyd!