‘Llwybrau Gofal’ oedd teitl sgwrs ddifyr a dadlennol Dr Angharad Jones yng nghyfarfod Cymdeithas Lenyddol y Garn, Bow Street, nos Wener, 18 Tachwedd. Soniodd Angharad yn annwyl iawn am ei magwraeth ar fferm yn ardal Capel Seion ac am ei hyfforddiant a’i gyrfa amrywiol fel nyrs, gan arbenigo ar ofal plant, gan mwyaf mewn gwahanol ddinasoedd yn Lloegr. Ond gartref yng Nghapel Seion yr oedd ei chalon bob amser, a dod yn ôl fu ei hanes a threulio cyfnod hapus iawn yn gweithio yn Ysbyty Bronglais.
Ond dyw Angharad ddim yn un i orffwys ar ei rhwyfau, ac aeth ati i ennill cymwysterau pellach a chymhwyso fel athrawes nyrsio. Yn ei swydd fel darlithydd gyda Phrifysgol Abertawe, ei gwaith oedd gofalu am fyfyrwyr oedd yn dod ar brofiad gwaith i ganolbarth Cymru. Ond gwelodd fod y niferoedd yn lleihau ac y gallai hynny arwain at broblemau yn y maes gofal yn yr ardal yn y dyfodol. Ac felly, ar gyfer traethawd doethuriaeth, penderfynodd Angharad ymchwilio i’r rhesymau pam nad oedd myfyrwyr nyrsio yn cael eu denu i ganolbarth Cymru.
A phan ddaeth cyfle i Angharad ymuno â staff Prifysgol Aberystwyth a llunio’r cwricwlwm ar gyfer cwrs nyrsio newydd yng Nghanolfan Addysg Gofal Iechyd y Brifysgol, defnyddiodd ei phrofiadau amrywiol a’i hymchwil yn sail ar gyfer llunio cwrs blaengar ac arloesol sy’n ceisio ymateb i ofynion arbennig ardal wledig.
Yn wahanol i brofiad Angharad, fydd dim raid i fyfyrwyr nyrsio fynd dros y ffin i Loegr bellach i gael eu hyfforddi, ac mae’n bosib dilyn rhan o’r cwrs ym Mhrifysgol Aberystwyth drwy gyfrwng y Gymraeg. Ar sail ei lwyddiant cychwynnol – a llawer iawn mwy o fyfyrwyr yn gwneud cais nag sydd o leoedd ar gael – y gobaith yw y bydd y datblygiad unigryw yma’n sicrhau dyfodol y sector nyrsio yn y Gymru wledig.