Helfa Drysor Nadolig Aberystwyth

Mae ein helfa drysor yn ôl! Rydym wedi cuddio 16 Pwdin Nadolig mewn ffenestri busnesau lleol.

Kerry Ferguson
gan Kerry Ferguson

Mae ein helfa drysor yn ôl!

Rydym wedi cuddio 16 Pwdin Nadolig mewn ffenestri busnesau lleol yn Aberystwyth

Ydych chi’n gallu darganfod nhw i gyd?

Mae’r helfa drysor wedi dechrau ar Dachwedd y 5ed, ac yn rhedeg hyd at 5yh ar Dachwedd y 21ain 2022.

I ymgeisio, bydd angen i chi darganfod ym mha siop mae’r ‘Pwdin Nadolig’ yn cuddio, a llenwi’r ffurflen ar-lein.

Byddwn yn cyhoeddi’r enillwyr yn ystod ein digwyddiad ar y 26ain o Dachwedd 2022!