Harddu ardal Y DDOLEN

Ni’n barod i’r Eisteddfod

Y Ddolen (papur bro)
gan Y Ddolen (papur bro)

Mae bwrlwm yr Eisteddfod yn ardal Y DDOLEN. Bu’r pentrefi wrthi’n brysur yn addurno mewn nifer o wahanol ffyrdd gan ddangos parodrwydd i gydweithio fel cymuned.

Hyfryd iawn yw gweld pobman yn edrych mor lliwgar â phawb yn edrych ymlaen at yr Eisteddfod!

Mae’r DDOLEN Awst – rhifyn arbennig y ’Steddfod allan yn y siopau HENO!

Cyhoeddir ynddo pa bentref sydd wedi ennill y gystadleuaeth harddu a feirniadwyd gan Elin Jones. Joiodd hi’r daith o gwmpas yr ardal.

Tybed pwy fydd wedi ennill!?!?