gan
Y Ddolen (papur bro)
Mae bwrlwm yr Eisteddfod yn ardal Y DDOLEN. Bu’r pentrefi wrthi’n brysur yn addurno mewn nifer o wahanol ffyrdd gan ddangos parodrwydd i gydweithio fel cymuned.
Hyfryd iawn yw gweld pobman yn edrych mor lliwgar â phawb yn edrych ymlaen at yr Eisteddfod!
Mae’r DDOLEN Awst – rhifyn arbennig y ’Steddfod allan yn y siopau HENO!
Cyhoeddir ynddo pa bentref sydd wedi ennill y gystadleuaeth harddu a feirniadwyd gan Elin Jones. Joiodd hi’r daith o gwmpas yr ardal.
Tybed pwy fydd wedi ennill!?!?