Fel rhan o brosiect “Cynefin y Cardi” ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron eleni, bu disgyblion Cyfnod Allweddol 2 Ysgol Llanfarian yn creu stribed comig i gyflwyno rhywfaint o’u hanes lleol.
I ddisgyblion Ysgol Llanfarian, doedd y dasg o ddewis hanesyn ddim yn un rhwydd iawn, felly aethant ati i ymchwilio. Penderfynwyd ar Darian Rhos-Rydd, tarian Oes Haearn cafodd ei darganfod ar dir mawn ym Mlaenplwyf amser maith yn ôl.
Bu disgyblion yn ymchwilio hanes y darian gan gynnwys erthygl ddiddorol yng Nghylchgrawn Ego. I ddweud y gwir, doedd yr hanes ddim yn un cyfarwydd i ni, ond yn bendant, bydd yn rhan o’n gwersi hanes lleol o hyn ymlaen. Pwy feddylia bod arteffact mor bwysig wedi ei darganfod mor agos at gartrefi rhai o’r disgyblion – ond bod rhaid teithio i’r Amgueddfa Brydeinig yn Llundain i’w gweld?
Yn ystod mis Mai, bu’r disgyblion yn brysur yn cydweithio â chwmni Cisp Multimedia yn cynllunio a dylunio yr hanes drwy fynd ati i dynnu lluniau, cynllunio, dylunio ac ysgrifennu capsiynau, gan fwynhau y profiad yn fawr iawn.
Mae pawb yn edrych ymlaen at weld tudalennau ysgolion yr holl Sir ar faes yr Eisteddfod yn Nhregaron.