Dros y misoedd diwethaf, mae criw o Flwyddyn 5 yn Ysgol Llwyn yr Eos, Penparcau wedi bod yn brysur yn gweithio ar brosiect cyffrous iawn.
Gosodwyd her gan y Sir i greu stribed cartŵn go arbennig ar hanes yr ardal leol.
Ar ôl meddwl yn ddwys, penderfynodd y dosbarth ymchwilio hanes Cwpan Nanteos.
Cafodd y plant eu tywys o gwmpas gerddi Nanteos yn ogystal â’r adeilad godidog. Dysgwyd hefyd am y teuluoedd a fu’n byw ac yn gweithio yn y Plas dros y canrifoedd. Diwrnod yn llawn dyddiadau pwysig ac enwau hanesyddol.
Mwynhawyd picnic yn un o’r gerddi cyn teithio i fyny i’r Llyfrgell Genedlaethol. Yma, cafodd y plant droi’n dditectifs wrth geisio gweithio allan gwir hanes y Gwpan.
Ar ôl cyrraedd nôl i’r ysgol, fe gwmpasodd y plant yr holl wybodaeth er mwyn creu stribed cartŵn arbennig.
Hoffai’r ysgol ddiolch i Cisp Multimedia am droi’r gwaith arlunio mewn i waith digidol. Rydym fel ysgol wedi cael cip olwg ar y gwaith gorffenedig, ond os hoffech weld a dysgu mwy am hanes Cwpan Nanteos, bydd rhaid galw draw i’r Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron i’w weld.
Welwn ni chi ’na.