Gŵyl ‘Big Tribute

Penwythnos o gerddoriaeth gan fandiau teyrnged

Catrin hopkins
gan Catrin hopkins

Daeth nifer o bobl i gaeau Gelli Angharad, Aberystwyth, dros benwythnos Gŵyl y Banc mis Awst i’r Big Tribute Festival, dair blynedd ers yr un dwetha, a braf oedd cael bod ’nôl ym mwrlwm y digwyddiad.

Croesawyd bandiau teyrnged i’r Beatles, Pink, U2, Adele, Sterephonics, Ed Sheeran, a mwy ar y prif lwyfan, a bandiau o Gymru ar yr ail lwyfan. Roedd amryw o ddigwyddiadau eraill ymlaen dros y tri diwrnod – megis consuriwr, arddangosfa gan feiciau BMX, ac arddangosfa anifeiliaid gwyllt.

Tynnwyd nifer o luniau gan ffotograffydd yr ŵyl –  ‘shootforthesêr’ sydd yn gwerthu’r lluniau am rodd tuag at apêl chemo Bronglais.

Os am fwy o wybodaeth, neu am gadw llygad allan am docynnau’r flwyddyn nesa, dilynwch yr ŵyl ar Facebook neu’r wefan https://thebigtribute.co.uk/