Heddiw mae’r Prom yn fwrlwm o weithgaredd gyda phobl o bob oed yn cymryd rhan yn y rasys beics o gwmpas y dref. Bore yma roedd yna gyfle i blant ac ieuenctid yr ardal ddangos eu doniau ac roedd yn braf gweld cynifer yn cymryd rhan.
Ond mae’r gweithgaredd yn para trwy’r dydd, felly dewch draw i gefnogi’r seiclwyr a mwynhau’r rasio. Prynhawn yma a heno mae Rasys Criterium Cymru gyda’r seiclwyr lleol yn cystadlu yn erbyn rhai o oreuon Cymru a thu hwnt.
Yfory (5/6/22) mae’n ddiwrnod y Sportif gyda chyfle i seiclwyr ddewis o dri chwrs sy’n amrywio o 44.5 milltir i 105.8 milltir. Cyfle i fwynhau golygfeydd godidog canolbarth Cymru!
Am fwy o fanylion gweler: https://www.abercyclefest.co.uk/cy/. Diolch i’r trefnwyr a’r noddwyr am yr holl waith yn sicrhau parhad yr Ŵyl.