Gŵyl Gerallt 2022 yn Aberystwyth

Bydd gŵyl lenyddol flynyddol a drefnir gan Barddas yn cael ei chynnal eleni yn y Stiwdio Gron yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth nos Wener 14 Hydref a dydd Sadwrn 15 Hydref.

gan Alaw Griffiths

Bydd penwythnos Gŵyl Gerallt 2022 yn dechrau nos Wener 14 Hydref gydag Ymryson y Beirdd. Y Prifardd Tudur Dylan Jones fydd yn sedd y Meuryn, ac eleni bydd tîm staff Prifysgol Aberystwyth yn herio tîm o gyn-fyfyrwyr. Ar dîm y staff bydd y Prifardd Mererid Hopwood, y Prifardd Hywel Griffiths, Eurig Salisbury, a’r Prifardd Gwenallt Llwyd Ifan. Ar dîm y cyn-fyfyrwyr bydd Gruffudd Antur, Y Prifardd Twm Morys, Enfys Hatcher, a’r Prifardd Llion Jones.

Ddydd Sadwrn 15 Hydref bydd rhaglen o ddigwyddiadau amrywiol yn cynnwys sgyrsiau, cyflwyniadau a lansiadau llyfrau. Thema’r ŵyl eleni yw ‘lleisiau’ a bydd y rhaglen yn cynnwys sesiwn ‘Lleisiau’r Gorffennol’ yng nghwmni’r Prifardd Llŷr Gwyn Lewis, Dr Alaw Mai Edwards a D. Geraint Lewis yn trafod gweithiau mawrion y gorffennol gyda chyfle i glywed clipiau sain o rai o’r lleisiau hynny. Hefyd ar y rhaglen, bydd sesiwn yn trafod ‘Lleisiau’r Dyfodol’ gydag Aneirin Karadog, cyn-Fardd Plant Cymru, a’r Bardd Plant cyfredol, Casi Wyn. Yn ymuno â nhw i sgwrsio bydd Elin a Delun, disgyblion o Ysgol Uwchradd Henry Richard, Tregaron. Cawn glywed hefyd gerdd newydd sbon a gyfansoddwyd gan ddisgyblion Ysgol Gymraeg Aberystwyth gyda Casi mewn gweithdy arbennig ar gyfer Gŵyl Gerallt.

Bydd cyfle i fwy o blant yr ardal gymryd rhan mewn gweithdy gyda Casi am 10 fore Sadwrn. Bydd y gweithdy am ddim ac yn addas ar gyfer plant blynyddoedd 3-6. Meddai Leusa Llewelyn, Cyfarwyddwr Artistig Llenyddiaeth Cymru sy’n arwain cynllun Bardd Plant Cymru:

“Braint yw cael parhau i gefnogi Barddas trwy gynnig arlwy i’r ifanc yng Ngŵyl Gerallt eleni. Nod cynllun Bardd Plant Cymru yw cynyddu mwynhad plant a phobl ifanc o farddoniaeth a’u grymuso trwy greadigrwydd, ac rwy’n ffyddiog y bydd plant Ceredigion wrth eu bodd yn barddoni gyda Casi. Rydym yn edrych ymlaen yn arw at weld beth ddaw o’r gweithdai!”

Yn ystod yr ŵyl bydd Barddas hefyd yn lansio dau lyfr newydd sbon – Cynghanedd i Blant (gol. Mererid Hopwood) ac Anwyddoldeb, casgliad cyntaf Elinor Wyn Reynolds o’i cherddi. Mewn sesiwn arall, cawn glywed Mererid Hopwood yn holi Prifeirdd Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2022, Esyllt Maelor a Llŷr Gwyn Lewis, am eu profiadau yn ennill y prif gystadlaethau eleni.

Gyda rhifyn yr Hydref o gylchgrawn Barddas ar gael erbyn yr ŵyl, bydd sesiwn yng nghwmni golygydd y cylchgrawn, y Prifardd Twm Morys, yn trafod y berthynas rhwng y llais a’r llun. Yn ymuno ag ef bydd y Prifardd Idris Reynolds, yr artist Meinir Mathias, a’r ffotograffydd Iestyn Hughes.

Hefyd dros y penwythnos, bydd dangosiadau o ffilmiau byrion gan artistiaid a beirdd sy’n arbrofi ac yn cyflwyno barddoniaeth mewn ffyrdd gweledol ynghyd ag arddangosfa o farddoniaeth pobl ifanc Ceredigion.

Cost tocyn dydd Sadwrn yw £20, neu £18 i aelodau Barddas. Bydd angen tocyn ar wahân am £5 yn unig ar gyfer yr ymryson.

I brynu tocyn, cysylltwch â Swyddfa Docynnau Canolfan y Celfyddydau: 01970 623232 neu ewch i www.aberystwythartscentre.co.uk.

Am wybodaeth bellach, cysylltwch â Chydlynydd Barddas, Alaw Griffiths: alawgriffiths@barddas.cymru.