Gwledda

Chwilio am gydlynydd ar gyfer prosiect cymunedol yng Ngheredigion

Steff Rees (Cered)
gan Steff Rees (Cered)

Ydych chi’n edrych am swydd gyffrous a chreadigol sydd yn ymwneud â bwyd, yr amgylchedd a’r celfyddydau yng Ngheredigion dros y misoedd nesaf? 

Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn chwilio am Gydlynydd Partneriaethau ac Ymgysylltu Cymunedol Prosiect ‘Gwledda’ am gyfnod o 3 mis.

Cefndir

Prosiect peilot cymunedol yng Ngheredigion yw Gwledda, sy’n dod â chymunedau ynghyd i dyfu ac i rannu bwyd, i ddysgu am yr amgylchedd a materion sy’n effeithio ar newid hinsawdd, bywyd gwyllt ayyb, ac i wisgo’r holl beth yn y celfyddydau, gan rannu straeon, caneuon, dawns, gwaith crefft ayyb, gyda’r bwriad o gynnal dathliad dan y sêr ar y Maes yng Ngheredigion yn ystod haf 2022.

Y bwriad yw paratoi astudiaeth dichonoldeb, a bydd gwaith y Cydlynydd yn bwydo’r astudiaeth hon.

Bydd y gwaith yn cynnwys:

  1. Archwilio ‘ardaloedd targed’ yng Ngheredigion: mapio mannau gwyrdd a chymunedau, a dod o hyd i randiroedd a gerddi cymunedol addas (presennol). Bydd gofyn i’r Cydlynydd gydweithio gyda’r cyrff sydd eisoes yn ymwneud â’r maes hwn, ac wrthi’n paratoi adroddiadau fel rhan o waith Bwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus Ceredigion.
  2. Nodi partneriaethau lleol ar gyfer y prosiect: ymchwilio a datblygu rhwydweithiau cymunedol a meithrin perthnasoedd newydd, gan fanteisio hefyd ar bartneriaethau sy’n bodoli eisoes.
  3. Datblygu rhaglen o weithgarwch arfaethedig: creu cynllun gweithredu ar gyfer y Rhaglen gyda rhai o’r prif bartneriaid (gan gynnwys elfennau artistig, amgylcheddol a garddio/tyfu bwyd) a chytuno ar linell amser ymarferol.

Bydd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn greiddiol i’r gwaith wrth i’r ymgeisydd cysylltu gyda chymunedau, gan gynnwys busnesau, cyrff cyhoeddus ac eraill.  Bydd y gweithgarwch lleol yn brawf o’r angen i wireddu’r prosiect hwn, ac yn cyfrannu tuag at alluogi gwahaniaeth hirdymor, cynaliadwy i adferiad natur a thyfu bwyd ar draws cymunedau Ceredigion.

Cyfrifoldebau

  • Cysylltu gyda chymunedau a chynhyrchwyr tyfu bwyd yng Ngheredigion;
  • Bod yn ddolen gyswllt rhwng partneriaid, gan gynnal cyfarfodydd er mwyn cytuno ar flaenoriaethau a rhaglen waith ar y cyd;
  • Mapio ardaloedd gwyrdd/tyfu bwyd y sir yn ogystal â chymunedau’r ardaloedd hynny;
  • Trefnu a chynnal gweithdai yn y gymuned ar gyfer trafod syniadau a chanfod be hoffent weld yn digwydd, gan rannu beth yw’r cyfleoedd gyda hwy;
  • Cynllunio rhaglen waith peilot ar y cyd gyda’r gymuned a’r partneriaid ar gyfer y camau nesaf;
  • Adnabod cyfleoedd ac ymgeisio am gyllid a grantiau ar y cyd gyda phartneriaid ar gyfer datblygu’r prosiect yn hirdymor;
  • Cadw cysylltiad agos gyda’r Eisteddfod Genedlaethol a phartneriaid craidd y prosiect gan gyflwyno adroddiadau cyson.

Sgiliau Personol

  • Sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig ardderchog; y gallu i gyfathrebu’n effeithiol â chynulleidfa eang;
  • Y gallu i weithio gyda phobl o ystod eang o fudiadau neu gefndiroedd;
  • Gallu cyfrifiadurol, yn enwedig MS Office (Word, Excel, PowerPoint) a’r rhyngrwyd, gan gynnwys y cyfryngau cymdeithasol;
  • Ymagwedd hyblyg tuag at waith a’r gallu i addasu i lwyth gwaith newidiol;
  • Y gallu i weithio yn annibynnol yn ogystal ag fel rhan o dîm;
  • Y gallu i drefnu llwyth gwaith amrywiol a rheoli llawer iawn o wybodaeth;
  • Sgiliau rhyngbersonol da a’r gallu i ymwneud yn effeithiol ag ystod eang o bobl;
  • Profiad o gyflawni prosiectau cymunedol a/ neu amgylcheddol, gan gynnwys codi arian i brosiectau;
  • Diddordeb mewn natur a phobl.

Am wybodaeth bellach, cysylltwch ag: elen@eisteddfod.cymru

Dyddiad Cau: dydd Llun 14 Chwefror 2022, 12:00.

Cynhelir cyfweliadau: Wythnos yn dechrau 21 Chwefror 2022, dros Zoom