Sêr Gwlân, Gwlân, Gwlana

Ffilm Merched y Wawr

Enfys Medi
gan Enfys Medi

Glywon ni si bod aelodau Merched y Wawr Llanafan wedi creu tipyn o argraff ym mhremière y ffilm Gwlân, Gwlân, Gwlana.

Dyma gyfweliad egsliwsif gydag Angharad a Gaynor, dwy sy’n ymddangos yn y ffilm.

Joiodd pob un oedd yn bresennol y première yn y Babell Lên nos Fercher. Cynrychiolwyd canghennau Merched y Wawr y sir yn yr orymdaith cario sgarff – a diolch i Lowri Steffan am y fideo yma.

Bydd rhaid inni chwilio mas am fwy o wybodaeth am le gallwn weld y ffilm ar ôl yr Eisteddfod!